Casgliadau Fiona Benson yw Bright Travellers (Vintage, 2014), Vertigo & Ghost (Vintage, 2019), ac Ephemeron (Vintage, 2022). Mae ei gwaith wedi ennill llawer o wobrau, gan gynnwys Gwobr Forward, Gwobr Seamus Heaney a Gwobr Goffa Geoffrey Faber, a chyrhaeddodd pob un o’i chasgliadau restr fer Gwobr T S Eliot. Mae hi wrthi’n gweithio ar bedwerydd casgliad, sef Midden Witch, a sgript farddoniaeth ar y cyd â’r coreograffydd o Wlad Belg, Wim Vanderkeybus, o’r enw Infamous Offspring. Mae’n byw yng nghanol Dyfnaint gyda’i gŵr a’u dwy o ferched.
Trosiadau a Thrawsnewidiadau o fewn Barddoniaeth
Ymunwch â’r beirdd a’r tiwtoriaid adnabyddus, Fiona Benson a Pascale Petit, mewn wythnos ddychmygus o farddoni yn llawn metamorffosis bwystfilaidd, creaduriaid chwedlonol, ac alcemi cemegol wrth iddyn nhw eich annog i archwilio pŵer y trosiad, a’i allu i droi’r personol yn fydoedd newydd byw. Bydd gennych ddigon o gyfle i ysgrifennu yn awyrgylch ysbrydoledig Tŷ Newydd, y lle delfrydol i fynd â’r dychymyg i’r bywyd gwyllt.
Bydd yr wythnos yn cynnwys darlleniadau ysbrydoledig, gweithdai grŵp a thiwtorialau un-i-un pwrpasol, a bydd ysgogiadau gweledol a gludwaith yn cael eu defnyddio i helpu eich meddwl i gyrraedd delweddau a dychmygion newydd. Bydd y tiwtoriaid hefyd yn rhannu eu profiadau nhw o greu byd trosiadol yn eu gwaith creadigol. Byddwch yn gadael yr wythnos gyda dychymyg rhydd ac ymagwedd o’r newydd tuag at eich gwaith.
Tiwtoriaid
![](https://www.tynewydd.cymru/wp-content/uploads/2019/09/Fiona-Benson-Cropped-220x220.jpg)
Fiona Benson
![](https://www.tynewydd.cymru/wp-content/uploads/2015/10/PASCALE-PETIT-credit-Derrick-Kakembo-Cropped-220x220.jpg)
Pascale Petit
Ganwyd Pascale Petit ym Mharis, ac mae’n byw yng Nghernyw. Mae hi o dras Ffrengig, Cymreig ac Indiaidd. Cafodd ei hwythfed casgliad o farddoniaeth, Tiger Girl (Bloodaxe, 2020), ei gynnwys ar restr fer Gwobr Forward a Gwobr Llyfr y Flwyddyn. Enillodd ei seithfed cyfrol, Mama Amazonica (Bloodaxe, 2017), y Wobr Laurel gyntaf a Gwobr RSL Ondaatje. Cyrhaeddodd pedwar o’i chasgliadau blaenorol y rhestr fer ar gyfer Gwobr TS Eliot. Roedd Pascale yn gyd-sylfaenydd The Poetry School, ac mae wedi bod yn Gadeirydd ar Wobr TS Eliot a Gwobr Laurel Prize. Bydd ei nofel gyntaf, My Hummingbird Father, yn cael ei rhyddhau gan Salt yn 2024 a’i nawfed casgliad, Beast, gan Bloodaxe yn 2025.
Darllenydd Gwadd
![](https://www.tynewydd.cymru/wp-content/uploads/2023/10/Untitled-design-6-1-220x220.png)
Romalyn Ante (Digidol)
Mae Romalyn Ante FRSL yn fardd, ysgrifydd a golygydd Prydeinig-Ffilipinaidd. Cafodd ei magu yn Ynysoedd y Ffilipinau ac ymfudodd i’w hail gartref, Wolverhampton, yn 2005. Mae’n olygydd cyd-sefydlu ar harana poetry, sef cylchgrawn i feirdd sy’n ysgrifennu yn Saesneg fel ail iaith neu gyd-iaith, ac yn sylfaenydd Tsaá with Roma, sef cyfres o gyfweliadau ar-lein gyda beirdd a phobl greadigol eraill. Cafodd Gymrodoriaeth Barddoniaeth Jerwood Compton ac mae hi ar hyn o bryd yn aelod o fwrdd golygyddol cylchgrawn Poetry London.