Tŷ Newydd ar Daith: Gweithdy Barddoniaeth (Arall)

Sul 2 Mawrth 2025
Tiwtor / Iestyn Tyne
Ffi’r Cwrs / O £10 y pen
Genre / Barddoniaeth
Iaith / Cymraeg

Pryd: Dydd Sul, 2 Mawrth 2025

Amser: 2.00 – 4.00 pm

Lleoliad: Llety Arall

Tâl: £10

 

Mae Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn dŵad am dro i Gaernarfon i gynnal gweithdy barddoniaeth fel rhan o ddathliadau Gŵyl Dewi Arall. Pwy well i arwain gweithdy o’r fath na Bardd y Dre cyntaf Caernarfon, Iestyn Tyne. Mae croeso i bawb – o’r rheiny sydd erioed wedi ysgrifennu darn o farddoniaeth o’r blaen ond sy’n awyddus i gael blas, i’r rheiny ohonoch sydd wedi hen arfer â sgwennu cerddi. Cewch flas ar sut beth yw gweithdy sgwennu, rhoi geiriau ar bapur a gadael â llond sach o syniadau i’w roi ar waith. I gyd-fynd â phenodiad Iestyn fel Bardd y Dref, byddwn yn mynd am dro bach i chwilio am ysbrydoliaeth o fewn waliau’r dref – ac yn canolbwyntio ein cerddi ar sylwi, clodfori a dathlu tameidiau bach o Gaernarfon.

Bydd y gweithdy yn addas i unrhyw un dros 16. Gan mai dim ond lle i 15 sydd ar y gweithdy hwn, gofynnwn i chi gofrestru o flaen llaw os gwelwch yn dda.

Tiwtor

Iestyn Tyne

Mae Iestyn Tyne yn fardd ac awdur, ac ef oedd un o sefydlwyr y cylchgrawn llenyddol Y Stamp. Mae’n olygydd i gyhoeddiadau annibynnol Y Stamp, ac wedi goruchwylio a chymell cyhoeddiadau sawl awdur newydd yng Nghymru dros y blynyddoedd diweddaf – gan roi llwyfan i leisiau newydd, ymylol yn aml. Iestyn yw trefnydd Cerddi Canol P’nawn, digwyddiad barddol teithiol sy’n rhoi llwyfan i awduron drwy wahoddiad a drwy gynnig gofod meic agored. Gyda Darren Chetty, Grug Muse a Hanan Issa, roedd yn gyd-olygydd Welsh (Plural) y gyfrol o ysgrifau ar ddyfodol Cymru, a chyrhaeddodd ei gasgliad o farddoniaeth, Stafelloedd Amhenodol, restr fer categori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2022. Ar y cyd â Leo Drayton, ef yw awdur Robyn (Y Lolfa, 2021), nofel i oedolion ifanc yng nghyfres Y Pump, enillydd categori yng ngwobrau Tir na n-Og a Llyfr y Flwyddyn yn 2022. Mae wedi ennill Coron (2016) a Chadair (2019) Eisteddfod yr Urdd, ac ef bellach yw Meistr Defod Wobrwyo Seremonïau Llenyddol yr Urdd. Mae wedi tiwtora yn Nhŷ Newydd ac ef yw Bardd cyntaf tref Caernarfon. Cyhoeddir Y Cyfan a fu Rhyngom Ni, ei gyfrol ffeithiol-greadigol sy'n dilyn llwybrau pryddest enwog Prosser Rhys, 'Atgof', gan Wasg y Bwthyn fis Mehefin 2025.

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811