Bardd, nofelydd a chofiannydd yw Joe Dunthorne. Cafodd ei nofel gyntaf, Submarine (Hamish Hamilton, 2008), ei chyfieithu i bymtheg iaith a’i throi’n ffilm glodwiw wedi’i chyfarwyddo gan Richard Ayoade. Enillodd ei ail nofel, Wild Abandon (Hamish Hamilton, 2011), Wobr Encore y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol yn 2012. Yn 2025, fe gyhoeddodd ei waith ffeithiol cyntaf, Children of Radium (Hamish Hamilton, 2025), sef cofiant teuluol a gyrhaeddodd restr gwerthwyr gorau’r Sunday Times oedd yn sôn am ei hen daid, Almaenwr Iddewig a chemegydd oedd yn creu past dannedd ymbelydrol. Cyrhaeddodd ei lyfr restr fer Gwobr yr LA Times am hunangofiant, Gwobr TLS Ackerley, ac enillodd y categori Ffeithiol-Greadigol Saesneg yng ngwobr Llyfr y Flwyddyn 2026. Ymhlith ei lyfrau eraill mae’r nofel The Adulterants (Hamish Hamilton, 2018), a chasgliad o gerddi O Positive (Faber & Faber, 2019). Cafodd ei eni a’i fagu yn Abertawe, ac mae bellach yn byw yn Llundain.
Wythnos Barddoniaeth a Rhyddiaith: Ysgrifennu Chwareus
Beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n stopio ceisio ysgrifennu campwaith ac yn dechrau cael hwyl?
Mae’r cwrs preswyl bywiog ac archwiliadol yma’n eich gwahodd chi i ddod ag ysbryd o chwarae a chydweithio i’ch barddoniaeth a’ch rhyddiaith. Dan arweiniad yr awduron clodwiw Joe Dunthorne ac Ella Frears, bydd yr wythnos yn eich annog i gymryd risgiau, dilyn eich chwilfrydedd, a darganfod beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n rhoi caniatâd i chi’ch hunan ysgrifennu heb wybod yn union i ble rydych chi’n mynd.
Drwy gymysgedd o ymarferion ysgrifennu, ysgogiadau, trafodaethau, darllen, gwaith cydweithredol ac adborth grŵp hael, byddwn ni’n archwilio’r posibiliadau creadigol a ddaw gydag arbrofi. Byddwn ni’n chwarae gyda llais, ffurf, cymeriad, iaith, strwythur a safbwynt, gan ddefnyddio cyfyngiadau a siawns i fynd â’n gwaith i rywle annisgwyl. Bydd yna gyfleoedd i greu pethau rhyfedd, pethau doniol, pethau anorffenedig, a phethau sy’n eich synnu.
Nid ar gynhyrchu gwaith caboledig y bydd y pwyslais, ond yn hytrach ar greu’r amodau lle gall gwaith newydd ddod i’r amlwg. Byddwch yn cael eich annog i droi at y dudalen gyda chwilfrydedd yn hytrach na barnedigaeth, ac i ystyried camgymeriadau, damweiniau a chyrraedd pen ffordd fel rhan o’r broses greadigol.
P’un a ydych chi’n ysgrifennu barddoniaeth, rhyddiaith, neu’n cyfnewid rhwng y ddau, mae’r cwrs yma ar gyfer awduron ar unrhyw gam sydd eisiau llacio’u gafael, rhoi ysgytwad i’w harfer, ac ailddarganfod llawenydd creu pethau gyda geiriau.
Tiwtoriaid
Joe Dunthorne
Ella Frears
Ella Frears yw awdur y casgliad o farddoniaeth, Shine, Darling (Little, Brown, 2025), a’r nofel hybrid, Goodlord (Little, Brown, 2025), sydd ar ffurf un e-bost hir at asiant tai, ill dau wedi’u cyhoeddi gan Corsair. Mae hi wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr T. S Eliot, Gwobr Sky Arts, a Gwobr Forward ddwywaith. Mae ei cherddi wedi’u cyfieithu i sawl iaith. Roedd hi’n Gymrawd Barddoniaeth ym Mhrifysgol Dwyrain Anglia, yn Gymrawd y Gronfa Lenyddiaeth Frenhinol yn Courtauld, a hi oedd y Bardd Preswyl cyntaf erioed i Ymddiriedolaeth Dartington. Mae Ella yn cyflwyno’r sioe sgwrsio a cherddoriaeth Tears for Frears ar Radio Soho, ac mae’n cyd-gyflwyno Stress Test a Stress Test Live gyda Joe Dunthorne a John Osborne, sydd hefyd ar Radio Soho. Mae hi’n Gymrawd yn Sefydliad Syniadau a Dychymyg Prifysgol Columbia ym Mharis ar hyn o bryd.
Darllenydd Gwadd
Saba Sams (Digidol)
Mae Saba Sams yn awdur ffuglen sy’n byw yn ne Cymru. Enillodd ei chasgliad cyntaf o straeon byrion, Send Nudes (Bloomsbury Publishing, 2022), Wobr Edge Hill ac fe’i enwyd ar restr fer ar gyfer Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2023. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Gunk (Bloomsbury Publishing) y yn 2025. Mae hi hefyd wedi’i henwi’n un o awduron gorau ifanc Prydain gan Granta.