Bardd, awdur ac athro yw Glyn Maxwell. Ei lyfrau diweddaraf yw New and Selected Poems (Gwasg Arrowsmith, 2024), The Big Calls (Live Canon, 2023), a How The Hell Are You (Pan Macmillan, 2020), a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr T.S. Eliot yn 2020. Bydd ei gasgliad nesaf, Extinction Songs, yn cael ei gyhoeddi yn 2027. Mae wedi bod yn astudio seicoleg a therapi celf yn ddiweddar, ac mae’n gweithio ar lyfr am oblygiadau niwrowyddoniaeth ddiweddar i farddoniaeth, gwleidyddiaeth, a’r byd ehangach. Mae’n Bennaeth Astudiaethau ar yr MA Ysgrifennu yn yr Ysgol Farddoniaeth yn Llundain, ac mae’n myfyrio ar farddoniaeth ac athroniaeth ar ei wefan Substack ‘Silly Games To Save The World’.
Wythnos Farddoniaeth: Y Gerdd fel Creadur Byw
Ydy’ch cerddi chi’n fyw? Oes gan gerdd ei meddwl ei hunan? Sut gall golygu helpu i fireinio neu ddarganfod ‘llais’ cerdd? Ar y cwrs barddoniaeth preswyl yma, bydd y beirdd a’r tiwtoriaid profiadol Glyn Maxwell a Helen Mort yn eich helpu i drin eich cerddi fel rhywbeth byw, gan chwistrellu egni i’ch gwaith ysgrifennu. Mae casgliad nesaf Glyn Maxwell Extinction Songs wedi’i ysgrifennu mewn deialog â lleisiau creaduriaid sydd mewn perygl. Mae gwaith Helen Mort yn aml yn ymdrin â thirweddau gwyllt a’r corff fel creadur.
Drwy ddarlleniadau manwl, ysgogiadau ac awgrymiadau creadigol, byddwn ni’n ystyried natur, ecoleg, technoleg, ymgorfforiad, a ffurf farddonol. Mae’r wythnos yma’n cynnig cyfle i chi ehangu eich crefft a dod o hyd i syndod yn y broses. Yn addas i bob lefel o brofiad ysgrifennu creadigol ac i awduron sy’n gweithio ar gerddi neu waith hybrid.
Tiwtoriaid
Glyn Maxwell
Helen Mort
Mae Helen Mort yn byw yn Sheffield. Mae’n awdur pedwar casgliad o farddoniaeth gyda Chatto & Windus, ac mae ei gwaith wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Forward a Gwobr T.S. Eliot. Ymhlith ei chyhoeddiadau eraill mae’r nofel Black Car Burning (Chatto & Windus, 2020) a hunangofiant am famolaeth a mynydda, A Line Above The Sky (Ebury Press, 2022) a enillodd Wobr Boardman Tasker am lenyddiaeth mynydd. Mae’n Athro Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion ac yn Gymrawd y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol.
Darllenydd Gwadd
Bethany Handley (Digidol)
Bardd clodwiw, awdur, ac ymgyrchydd anabledd o Sir Fynwy yw Bethany Handley, sy’n ymgyrchu am fynediad gwell at fyd natur. Cafodd ei llyfr ffeithiol, My Body is a Meadow (Headline Press, 2026) ei gynnwys ar y rhestr hir ar gyfer Gwobr Wainwright am Ysgrifennu Natur 2026. Enillodd Bethany Wobr Eric Gregory am ei phamffled o farddoniaeth Cling Film (Seren Books, 2025), ac roedd yn gyd-olygydd i Beyond / Tu Hwnt (Lucent Dreaming, 2025), a gyrhaeddodd restr fer Gwobrau Llyfrau Prydain 2026. Cafodd ei chynnwys ar y rhestr o’r cant o bobl anabl fwyaf dylanwadol yng ngwledydd Prydain gan Ymddiriedolaeth Shaw 2024, mae’n llysgennad ar gyfer The Ramblers ac mae’n eistedd ar Fwrdd Ymgynghorol Profiadau Byw ParalympicsGB. Mae hi wedi cael sylw ar BBC One, BBC Radio 4, Country Life, Country Living, The Guardian a mwy.