Asiant llenyddol gyda Curtis Brown yw Cathryn Summerhayes. Cyn hynny bu’n gweithio yn WME, lle llwyddodd i sicrhau rhestr amrywiol o gleientiaid proffil uchel gan gynnwys yr awduron nofelau cyffro trosedd sydd wedi gwerthu miliynau o gopïau Chris Whitaker a Lucy Foley, Dr Adam Kay sy’n adnabyddus am This is Going to Hurt (Picador, 2018), Anita Rani, Lisa Howells, Nicci Cloke, Shappi Khorsandi, Ella Mills (Deliciously Ella), Mark Watson, Naomi Wood, Lucy Rose, Kirsty Logan, Susan Fletcher, Viv Groskop, Tiffany Murray, artist llyfrau lliwio mwyaf poblogaidd y byd Johanna Basford, Grace Dent, Syr Ranulph Fiennes, a llawer mwy. Mae Cathryn hefyd yn gweithio gydag awduron adnabyddus yn yr Unol Daleithiau, fel Lisa Taddeo, Jennifer Coolidge ac Ashley Flowers drwy'r asiantaethau partner UTA a CAA. Enwyd Cathryn yn Asiant Llenyddol y Flwyddyn yng Ngwobrau Llyfrau Prydain 2019. Mae ar Bwyllgor Cymdeithas y Llyfrau, mae’n gweithio gyda Llenyddiaeth Cymru a Gŵyl y Gelli, ac yn ei bywyd blaenorol ym maes digwyddiadau a chysylltiadau cyhoeddus, bu’n gweithio ar wobrau proffil uchel fel Gwobr Booker.
Wythnos yng Nghwmni Asiant (Encil)
Nod yr encil wythnos yma yw rhoi’r amser, y lle a’r arweiniad arbenigol sydd eu hangen ar awduron i symud ymlaen gyda’u gwaith ysgrifennu. P’un a ydych chi’n paratoi i ddod o hyd i asiant i’ch cynrychioli, yn gweithio tuag at derfyn amser penodol, neu’n chwilio am safbwynt golygyddol newydd, mae’r encil yn cynnig amgylchedd cefnogol i ganolbwyntio er mwyn datblygu eich gwaith a’ch hyder.
Yn ymuno â ni mae’r asiant llenyddol profiadol a chlodwiw Cathryn Summerhayes (Curtis Brown), fydd yn arwain rhaglen o weithdai grŵp bywiog a thiwtorialau un-i-un. Bydd sesiynau’n archwilio’r grefft o hunan-olygu, datblygiad proffesiynol, sut i wneud i’ch gwaith ddenu sylw asiantiaid, codi cwr y llen ar y broses gyhoeddi, a mwy. Gyda phrofiad helaeth o weithio gydag awduron ar draws amrywiaeth o genres, bydd Cathryn hefyd yn eich gwahodd i gyflwyno’ch gwaith ymlaen llaw, gan gynnig adborth wedi’i deilwra i’ch helpu i gryfhau’ch pecyn cyflwyno ac i ddeall beth sy’n dod nesaf.
Ochr yn ochr â’r rhaglen, mae pob pryd bwyd yn cael ei ddarparu ar yr encil gan roi amser di-dor i chi ysgrifennu, darllen, meddwl a dadflino. Yn ardal odidog Dwyfor yn y gogledd-orllewin, gallwch ddwyn ysbrydoliaeth o’r golygfeydd ysblennydd o Fae Ceredigion, sgwrsio dros ginio, neu ddod o hyd i gornel dawel yn llyfrgell glyd Tŷ Newydd. Mae’n gyfle i gamu i ffwrdd o fywyd bob dydd, gwneud cysylltiadau gydag awduron eraill a dychwelyd at eich gwaith yn barod i ganolbwyntio a dal ati o’r newydd.
Tiwtor
Cathryn Summerhayes
Darllenydd Gwadd
Naomi Wood (Digidol)
Mae Naomi Wood yn awdur sydd wedi bod ar restrau'r gwerthwyr gorau; hi yw awdur The Godless Boys (Pan Macmillan, 2021), Mrs. Hemingway (Picador, 2014) a The Hiding Game (Picador, 2021). Mae ei nofelau wedi ennill Gwobr Jerwood, Gwobr Gŵyl y Gelli y Llyfrgell Brydeinig, ac wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Walter Scott, Gwobr Dylan Thomas, a Choron Aur Cymdeithas yr Awduron Hanesyddol. Ei chasgliad cyntaf o straeon, a gyhoeddwyd yn 2024, yw This is Why We Can't Have Nice Things, (Orion (Prydain) a Mariner (Unol Daleithiau), sy'n cynnwys enillydd Gwobr Stori Fer Genedlaethol y BBC yn 2023, 'Comorbidities'. Ei diddordebau yw benyweidd-dra gwenwynig a mamolaeth drafferthus, yn enwedig yn y gweithle modern. Mae'n Athro Cyswllt mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Dwyrain Anglia.