Cwrs Undydd: Y Sgil i ‘Sgwennu’n Gryno

Sad 16 Mawrth 2024
Tiwtor / Sioned Erin Hughes
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genres / FfeithiolFfuglenStraeon Byrion
Iaith / Cymraeg

11.00 am – 4.00 pm

Mae modd dweud llawer mewn ychydig eiriau. Yn ystod y cwrs undydd hwn, bydd y tiwtor, Erin Hughes, yn rhannu’r hyn mae hi wedi’i ddysgu am bwysigrwydd cynildeb yn eich ysgrifennu, a sicrhau fod pob gair yn haeddu ei le. Yn stori fer, yn nofel neu hyd yn oed yn gofnod dyddiadur, gall ganolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig greu gwaith ysgrifennu cryfach yn y pen draw. Bydd Erin yn arwain gweithdy hwyliog a defnyddiol, gan ein herio i ddewis ein geiriau yn ddoeth, a hynny mewn awyrgylch ddiogel a chefnogol. Bydd cyfle i bawb roi tro ar ymarferion ysgrifennu yn ystod y cwrs, ond fydd dim pwysau ar neb i rannu eu gwaith. Bydd pawb yn gadael y cwrs yn ysu i fwrw ymlaen â’u gwaith creadigol.

 

Mae ein cyrsiau undydd yn addas i unigolion sydd heb brofiad o gwbl yn y byd ysgrifennu creadigol, a hefyd i’r rhai â pheth profiad eisoes. Mewn awyrgylch groesawgar, gynnes, bydd cyfle i chi ddysgu gan diwtoriaid sydd yn arbenigwyr yn eu maes. Mae croeso i’r chwilfrydig, ac i’r rheiny sydd yn edrych am ddiwrnod o hwyl ac am gael dysgu rhywbeth newydd. Os am drafod os yw’r cwrs hwn, neu unrhyw un o gyrsiau rhaglen 2023 yn addas i chi, cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol.

 

Bydd te, coffi a melysion ar gael drwy’r dydd, a gweinir cinio ysgafn i bawb fel rhan o bris y cwrs. Os yn teithio o bell, neu awydd aros dros nos, holwch ni am bris llety neu cymrwch gip ar ein Bwthyn Encil Awduron, Nant.

Tiwtor

Sioned Erin Hughes

Mae Sioned Erin Hughes yn byw yn Llŷn. Mae hi'n awdur, ymgyrchydd, ac yn gweithio’n llawrydd. Graddiodd mewn Cymdeithaseg a Chymraeg, cyn dilyn cwrs meistr mewn Ysgrifennu Creadigol – hyn oll ym Mhrifysgol Bangor. Enillodd y Goron yn Eisteddfod yr Urdd 2018, a daeth yn ail am y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd 2022. Hi oedd golygydd a churadur y gyfrol Byw yn fy Nghroen (Y Lolfa, 2019) a enillodd Wobr Tir na n-Og yn 2020. Ysgrifennodd lyfr i blant, Y Goeden Hud (Gwasg Carreg Gwalch), ar ddechrau'r clo mawr yn 2020. Rhyngom (Y Lolfa) yw ei llyfr diweddaraf – llyfr a enillodd iddi'r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, 2022.

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811