Yoga a Barddoniaeth: Lle mae’r Corff yn Dechrau

Llu 5 Gorffennaf 2027 - Gwe 9 Gorffennaf 2027
Tiwtoriaid / Siân Melangell Dafydd & Rupinder Kaur Waraich
Darllenydd Gwadd / Amani Saeed
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genres / Barddoniaethyoga
Iaith / Dwyieithog

Beth sy’n digwydd pan fyddwn ni’n dechrau ysgrifennu o’r corff?

Cwrs preswyl wythnos o hyd yw Lle mae’r Corff yn Dechrau, sy’n archwilio’r berthynas agos rhwng y corff, iaith a’r llais drwy yoga, barddoniaeth a gair llafar. O dan arweiniad y bardd a’r athro yoga Rupinder Kaur Waraich, ochr yn ochr â’r awdur a’r athro yoga Siân Melangell Dafydd, mae’r cwrs yn gwahodd cyfranogwyr i ddarganfod y corff fel ffynhonnell creadigrwydd, cof a gwybodaeth.

Drwy yoga ysgafn, myfyrdod, gwaith anadlu, ysgrifennu, darllen a thrafodaeth, byddwn ni’n archwilio sut gall symud agor llwybrau at iaith, sut mae anadl yn siapio rhythm barddonol, a sut gall ysgrifennu ddod yn weithred ymgorfforedig o dalu sylw. Bydd y cwrs yma’n cael ei arwain yn Saesneg, ond bydd Siân Melangell Dafydd yn awyddus i gynnig ysgogiadau creadigol, arweiniad ac adborth drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd.

Bydd yr artist gair llafar Amani Saeed yn arwain sesiwn ar y llais a pherfformiad, gan annog y cyfranogwyr i arbrofi gydag adrodd eu gwaith ar lafar a darganfod sut mae barddoniaeth yn newid pan gaiff ei gario gan anadl a phresenoldeb.

Mae hwn yn agored i bawb, ar bob cam o’u taith ysgrifennu; nid encil yoga gydag ysgrifennu’n rhan ohono yw hwn, na chwaith cwrs barddoniaeth gyda symud. Mae’n breswylfa greadigol integredig: yn cynnig lle i arafu, i wrando’n ddwfn, ac i greu cysylltiadau newydd rhwng y corff, y dychymyg a’r llais.

Does dim angen profiad blaenorol o yoga na gair llafar, dim ond chwilfrydedd a pharodrwydd i archwilio.

Tiwtoriaid

Siân Melangell Dafydd

Artist amlddisgyblaethol, awdur, bardd, cyfieithydd, storïwr, athro yoga a naturiaethwr sy'n gweithio yn Gymraeg ac yn Saesneg yw Siân Melangell Dafydd. Mae’n credu bod cydweithio yn ffurf hanfodol ar gelfyddyd ac awdur maes yw hi yn ei chalon, gan gael ei denu at dirwedd, symud, a’r byd byw. Mae hi wedi dysgu ysgrifennu creadigol mewn prifysgolion yng ngwledydd Prydain ac ym Mharis, ac mae’n gyd-olygydd Modron, sef cylchgrawn ecolegol ar-lein. Enillodd ei nofel gyntaf, Y Trydydd Peth (Gwasg Gomer, 2009), y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Ers hynny mae ei ffuglen a’i barddoniaeth wedi cael ei chyfieithu’n eang, ac yn 2025 aeth ei drama Gwen y Witch, oedd am y menywod cyntaf a gafodd eu crogi am fod yn wrach yng Nghymru, ar daith yn 2025. Cafodd ei chasgliad cydweithredol o farddoniaeth gydag Anitha Thampi o Kerala, Dŵr Arall / A Different Water, ei gyhoeddi yn 2018 gan Poetrywala. Mae ei harfer yn cael ei yrru gan chwarae, chwilfrydedd a’r corff mewn ystum a symudiad, gan archwilio sut gall iaith gael ei siapio drwy gydweithio, creu mythau, cyfieithu a chysylltiad gyda’r byd mwy-na-dynol. 

Rupinder Kaur Waraich

Artist amlddisgyblaethol, awdur, perfformiwr, athro yoga a storïwr sy'n byw yng ngorllewin canolbarth Lloegr yw Rupinder Kaur Waraich (hi/ei). Gan weithio ar draws barddoniaeth, theatr, ffilm a pherthyn, mae’n creu gwaith ffeministaidd personol sy’n archwilio croestoriadau’r corff, iaith, cof, rhywioldeb, ysbrydolrwydd a pherthyn. Wedi’i lywio gan chwilfrydedd, mae ei harfer yn olrhain y cysylltiadau rhwng myth, profiad byw a gwaddol diwylliannol, gan archwilio celfyddyd fel lle i gofio, gwrthsefyll a thrawsnewid. Ar ôl ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth, Rooh (Gwasg Verve Poetry, 2018), cyhoeddodd Tigress with Wings (Llyfrau Seren, 2026).  Ar draws pob ffurf, mae ei gwaith yn cael ei yrru gan archwiliad parhaus o’r hunan artistig fel cyfrwng ac adferiad. https://rupinderkw.com/ 

Darllenydd Gwadd

Amani Saeed

Awdur rhyngwladol yw Amani Saeed sy’n troedio’r ffin rhwng gwreiddiau a llwybrau. Wedi’u magu yn y croestoriad (hynny yw: croesfrwydr) o fod yn fenyw Fwslimaidd gwiar drawsffiniol, maen nhw wedi bod yn gyfarwydd erioed â thensiynau’r ‘rhwng’, ac maen nhw’n ysgrifennu i droi’r gwrthddywediadau mae’r byd yn ceisio’u datrys yn rhywbeth pleserus. Mae Amani yn ysgrifennu barddoniaeth, ysgrifau, ffilmiau, adolygiadau am ddêts gwael, a beth bynnag arall sydd ei angen i gyfleu’r pwynt. Maen nhw wedi perfformio yn Neuadd Frenhinol Albert, y Globe, ac i’r Cenhedloedd Unedig, ymhlith eraill. Cafodd eu casgliad o farddoniaeth, Split, ei gyhoeddi gyda Llyfrau Burning Eye yn 2018. Mae’n gyd-awdur Queer Parivaar, a ddangoswyd am y tro cyntaf yn BFI Flare 2022 ac a enillodd y Ffilm Brydeinig Orau yng Ngwobr Iris 2022. Amani hefyd sy’n curadu ac yn cynnal y noson ryngddisgyblaethol boblogaidd ‘hen-nah party’, sydd wedi’i chynllunio gan ac ar gyfer pobl gwiar Dde Asiaidd.

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811