Mae Hanan Issa yn fardd, gwneuthurwr ffilmiau ac artist Cymreig-Iracaidd. Mae ei chyhoeddiadau’n cynnwys ei chasgliad barddoniaeth My Body Can House Two Hearts a Welsh [Plural]: Essays on the Future of Wales. Perfformiwyd ei monolog fuddugol With Her Back Straight yn y Bush Theatre fel rhan o’r Hijabi Monologues. Mae’n rhan o dîm awduron cyfres arobryn Channel 4, We Are Lady Parts. Mae Hanan yn gyd-sylfaenydd y gyfres meic agored Where I’m Coming From. Hi oedd derbynnydd comisiwn Ffilm Cymru / BBC Cymru yn 2020 ar gyfer ei ffilm fer The Golden Apple. Hi yw Bardd Cenedlaethol Cymru ar hyn o bryd ac yn Gymrawd Rhyngwladol Gŵyl y Gelli yn 2022
Ysgrifennu a Nofio Gwyllt
Mae pobl yn cael eu denu’n naturiol tuag at ddŵr am lawer o resymau, ac mae astudiaethau diweddar yn dangos bod agosrwydd at fannau glas yn gallu cefnogi llesiant, lleihau straen, a meithrin ymdeimlad o gysylltiad gydag eraill. Os ydych chi’n chwilio am ruthr gwyllt gan bwll o ddŵr oer; cysylltiadau agosach gyda’r byd mwy-na-dynol; ffyrdd o fod yn fwy presennol a myfyriol yn ein cyrff; neu ddealltwriaeth ddyfnach o’n diwylliant, llên gwerin, ffydd a hanes, mae gan ddŵr ffordd o wneud i ni deimlo’n well. Yn ystod y cwrs penwythnos hwn, byddwn ni’n archwilio ein perthynas gyda dŵr drwy ysgrifennu. Pa ysbrydoliaeth allwn ni ei ennyn ar ôl profiad yn nofio? A all nofio myfyriol gynyddu ein creadigrwydd? Ymunwch â Hanan Issa a Grug Muse am benwythnos o nofio ac ysgrifennu, yn nyfroedd hyfryd Llŷn ac Eifionydd. Mae croeso i bob genre a ffurf o ysgrifennu, a does dim angen profiad blaenorol o ysgrifennu.
Cwestiynau Cyffredin
Oes angen profiad blaenorol yn nofio arna i i fynd ar y cwrs hwn?
Oes. Mae elfen nofio’r cwrs yn hanfodol, ond bydd rhwydd hynt i bawb fynd ar eu cyflymder eu hunain. Serch hynny, rydyn ni’n gofyn bod y cyfranogwyr yn nofwyr hyderus sydd â rhywfaint o brofiad blaenorol yn nofio yn y môr ac mewn afonydd. Mae hyn er mwyn sicrhau bod modd i’r cyfranogwyr gymryd rhan lawn yn y cwrs penwythnos mewn modd cyfforddus a diogel.
Pa reoliadau iechyd a diogelwch fydd ar waith yn ystod y sesiynau nofio?
Bydd hyfforddwr nofio cymwys yn bresennol yn ystod y ddwy sesiwn nofio i sicrhau diogelwch y grŵp. Bydd asesiad risg manwl yn cael ei gynnal cyn y cwrs, a bydd asesiad risg ychwanegol yn digwydd ar y dydd i sicrhau bod y dyfroedd yn ddiogel i nofio ynddynt.
Faint o nofio sy’n rhan o’r cwrs?
Bydd dwy sesiwn nofio grŵp wedi’u trefnu yn ystod y cwrs, a fydd yn digwydd fore Sadwrn a Sul fwy na thebyg. Byddwn yn nofio yn yr afon ac yn y môr. Bydd hyn yn digwydd ochr yn ochr â theithiau cerdded grŵp, a, os bydd y tywydd yn caniatáu, darlleniadau a gweithdai yn yr awyr agored.
Oes angen profiad blaenorol yn ysgrifennu arna i i fynd ar y cwrs hwn?
Nac oes, does dim angen bod â phrofiad blaenorol yn ysgrifennu. Os ydych chi’n fardd neu’n awdur ffuglen, yn rhywun sy’n gobeithio cofnodi eich profiadau, neu’n dymuno ychwanegu mwy o fyfyrio a chreadigedd yn eich bywyd, yna dyma’r cwrs i chi.
Tiwtoriaid
Hanan Issa
Grug Muse
Mae Grug Muse yn fardd ac ysgrifwr o Ddyffryn Nantlle. Cyhoeddwyd ei chasgliad barddoniaeth diweddaraf – merch y llyn – gan Gyhoeddiadau’r Stamp yn 2021, ac mae eu hysgrifau wedi ymddangos mewn cylchgronau yn cynnwys Planet ac O’r Pedwar Gwynt. Mae hi hefyd yn olygydd gyda Chyhoeddiadau’r Stamp, a hi yw un o gyd-olygwyr y casgliad o ysgrifau Welsh (plural), (Repeater, 2022). Mae Grug yn rhan o grŵp Sgwennu’n Well Llenyddiaeth Cymru, ac yn datblygu ei phrofiad o fod yn ymarferwr creadigol ym myd iechyd a llesiant.