Mae Elizabeth O'Connor yn byw yn Birmingham. Mae ei straeon byrion wedi ymddangos yn The White Review ac yn Granta, ac mae ganddi PhD mewn Llenyddiaeth Saesneg o Brifysgol Birmingham, gan arbenigo yn yr awdur modernaidd H.D. a'i gwaith ysgrifennu am dirweddau arfordirol. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Whale Fall, yn 2024 gan Picador yng ngwledydd Prydain a Pantheon yn yr Unol Daleithiau, a bydd yn cael ei chyhoeddi mewn un ar ddeg o diriogaethau eraill. Fe'i dewiswyd yn un o ddeg nofel gyntaf orau'r flwyddyn gan The Observer, ac yn llyfr y flwyddyn yn The New Yorker a The New York Times, ymhlith eraill. Llwyddodd hefyd i ennill Gwobr Chautauqua am ffuglen yn 2025.
Ysgrifennu â Thyndra
Beth sy’n gwneud stori’n amhosib ei rhoi i lawr? Tyndra. Y teimlad bendigedig yna o ddisgwyl, anesmwythyd, neu ddyheu sy’n golygu bod rhaid troi’r dudalen, dal ein gwynt, neu ddal ati i ddarllen am ddau o’r gloch y bore er bod angen codi drannoeth. Gall fod yn risg uchel, yn risg isel, yn ddirgel neu’n amlwg, ond mae tyndra’n gyrru naratif, yn dyfnhau perthnasoedd y cymeriadau, ac yn creu gwefr rhwng yr awdur a’r darllenydd.
Dyma gwrs wythnos lle byddwn yn archwilio sut mae tyndra yn gweithio ar draws strwythur, cymeriad, deialog a iaith, gan dynnu ar ryddiaith, barddoniaeth a dramâu i ddatgelu’r technegau sy’n creu straeon gafaelgar. P’un a ydych chi’n ysgrifennu rhamant sy’n araf ffrwtian, drama seicolegol, neu ffuglen lenyddol yn llawn mudandod a chyfrinachau, tyndra ydy’ch offeryn mwyaf grymus. Byddwn yn darllen dyfyniadau byr a bachog gan awduron eraill, ac yn eu defnyddio fel man cychwyn ar gyfer ein gwaith ysgrifennu ein hunain. Byddwch chi’n cymryd rhan mewn ymarferion cynhyrchiol, trafodaethau grŵp, a sesiynau adborth fydd â’r nod o hogi’ch greddf ac ymestyn eich sgiliau.
Mae’r cwrs yma ar agor i awduron o bob lefel a genre.
Tiwtoriaid
Elizabeth O'Connor
Yael van der Wouden
Ganed Yael van der Wouden yn 1987 ac mae'n byw ac yn gweithio yn yr Iseldiroedd. Cyrhaeddodd The Safekeep (Viking, 2024), sef ei nofel gyntaf, restr fer Gwobr Booker 2024 ac enillodd wobr The Women’s Prize 2025. Roedd hefyd ar restr hir Gwobr Dylan Thomas, Gwobr Wingate, a Gwobr Walter Scott am Ffuglen Hanesyddol. Mae Yael yn darlithio mewn ysgrifennu creadigol a llenyddiaeth gymharol.
Darllenydd Gwadd
Carys Davies (Digidol)
Mae Carys Davies yn awdur tair nofel a dau gasgliad o straeon byrion. Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf West (Granta, 2019) restr fer Gwobr Rathbones Folio, daeth yn ail yng Ngwobr McKitterick Cymdeithas yr Awduron, ac enillodd wobr Ffuglen Llyfr y Flwyddyn. Roedd ei hail nofel The Mission House (Granta, 2021) yn Nofel y Flwyddyn y Sunday Times yn 2020. Enillodd ei nofel ddiweddaraf, Clear (Granta, 2024), Wobr Ondaatje y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol 2025 a gwobr Llyfr y Flwyddyn 2025. Fe’i henwebwyd hefyd am nifer o wobrau eraill gan gynnwys Gwobr Walter Scott, Gwobr Llyfrau Genedlaethol yr Alban, y Prix Femina, y Prix Médicis, a’r Europese Literatuurprijs. Enillodd ei chasgliad o straeon byrion The Redemption of Galen Pike (Salt, 2024) Wobr Stori Fer Ryngwladol Frank O'Connor a Gwobr Datgelu Ffuglen Jerwood. Mae hefyd wedi ennill Gwobr V.S. Pritchett y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol, Gwobr Stori Fer Olive Cook Cymdeithas yr Awduron a Chymrodoriaeth Cullman yn Llyfrgell Gyhoeddus Efrog Newydd. Mae'n Gymrawd y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol ac yn Gymrawd 2025/26 yn Athrofa Syniadau a Dychymyg Prifysgol Columbia ym Mharis.