Ysgrifennu am Fod yn Fam

Gwe 18 Hydref 2024 - Sul 20 Hydref 2024
Tiwtoriaid / Pragya Agarwal & Carolyn Jess-Cooke
Darllenydd Gwadd / Mari Ellis Dunning (Digidol)
Ffi’r Cwrs / O £325 - £375 y pen
Genres / BarddoniaethFfeithiolFfuglenIechyd a Lles
Iaith / Saesneg

Gall pynciau am fod yn fam ac yn fenyw ysgogi ystod o deimladau, emosiynau ac ymatebion. Bydd y cwrs penwythnos traws-genre hwn, dan arweiniad yr awdur a’r gwyddonydd ymddygiadol, Pragya Agarwal, a’r bardd, golygydd a nofelydd Carolyn Jess-Cooke, yn eich annog i archwilio eich profiad personol gan drafod hefyd y ffactorau cymdeithasol, hanesyddol a gwyddonol sy’n siapio’r ffordd rydyn ni’n trafod ac yn meddwl am fod yn fam.

Byddwch yn cael eich cefnogi gan y tiwtoriaid a’ch cyd-gyfranogwyr wrth i chi ystyried pynciau fel ffrwythlondeb, newid corfforol, llawenydd, trawma, a iechyd meddwl. Bydd y tiwtoriaid hefyd yn eich annog i feddwl yn onest am gyd-destun modern yr argyfwng hinsawdd a sut gall ffactorau o’r fath effeithio ar ein penderfyniadau unigol a chymunedol. Dros y penwythnos, bydd y tiwtoriaid hefyd yn rhannu cyngor ysgrifennu creadigol ac ymchwil wedi’i deilwra i’ch gwaith, gan amrywio o farddoniaeth a nofelau i waith ffeithiol creadigol hir.

Mewn amgylchedd croesawgar, cefnogol, diogel a chynhwysol, byddwch yn cael eich gwahodd i gymryd rhan mewn trafodaethau grŵp, darlleniadau, ac ymarferion ysgrifennu a fydd yn llywio, yn ysbrydoli, ac yn mireinio eich meddwl a’ch ysgrifennu, waeth beth yw eich genre neu eich profiad.

 

Bwrsariaethau

Mae un ysgoloriaeth gwerth £100 ar gael ar gyfer y cwrs hwn. I ymgeisio, cwblhewch y ffurflen gais yma. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Sul, 18 Awst 2024

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r gefnogaeth sydd ar gael, ewch i’n tudalen Cymorth Ariannol: https://www.tynewydd.cymru/cyrsiau-ac-encilion/cymorth-ariannol/  

Tiwtoriaid

Pragya Agarwal

Mae Dr Pragya Agarwal yn awdur pedwar llyfr ffeithiol gan gynnwys llyfr a gafodd ganmoliaeth eang, (M)otherhood, a Hysterical. Mae Pragya yn athro gwadd ym maes annhegwch cymdeithasol ym Mhrifysgol Loughborough ac yn gymrawd gwadd ym Mhrifysgol Rhydychen. Mae ei gwaith ysgrifennu wedi cael ei gyhoeddi’n eang yn The Guardian, Scientific American, New Scientist, Prospect, Florida Review a Literary Hub. Mae hi hefyd yn addysgu cyrsiau ysgrifennu creadigol ar gyfer Canolfan Awduron Iwerddon ac Arvon. 

Awdur y mae ei gwaith wedi’i gyhoeddi mewn 23 o ieithoedd yw Carolyn Jess-Cooke. Yn 2014 arweiniodd brosiect teithiol a ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Lloegr o’r enw Writing Motherhood, yn ymwneud â gwyliau llenyddol yng ngwledydd Prydain. Mae ei nofelau The Nesting, The Lighthouse Witches, The Ghost Woods, ac A Haunting in the Arctic yn archwilio ffeministiaeth a bod yn fam, ac maent wedi cyhoeddi o dan yr enw CJ Cooke. Mae’n byw yn yr Alban, ac yn Ddarllenydd Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Glasgow. 

Carolyn Jess-Cooke

Awdur y mae ei gwaith wedi’i gyhoeddi mewn 23 o ieithoedd yw Carolyn Jess-Cooke. Yn 2014 arweiniodd brosiect teithiol a ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Lloegr o’r enw Writing Motherhood, yn ymwneud â gwyliau llenyddol yng ngwledydd Prydain. Mae ei nofelau The Nesting, The Lighthouse Witches, The Ghost Woods, ac A Haunting in the Arctic yn archwilio ffeministiaeth a bod yn fam, ac maent wedi cyhoeddi o dan yr enw CJ Cooke. Mae’n byw yn yr Alban, ac yn Ddarllenydd Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Glasgow. 

Darllenydd Gwadd

Mari Ellis Dunning (Digidol)

Cyrhaeddodd casgliad barddoniaeth cyntaf Mari Ellis Dunning, Salacia (Parthian, 2018), restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2019. Mae ei hail gasgliad, Pearl and Bone (Parthian, 2022), yn archwilio cymhlethdodau mamolaeth gynnar, ac yn ystyried yn benodol amgylchiadau dod yn fam yn ystod pandemig COVID. Fe’i dewiswyd fel Dewis Barddonol Rhif 1 y Wales Arts Review yn 2022. Mae Mari yn ymgeisydd PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle mae’n ysgrifennu nofel hanesyddol wedi’i gosod yng Nghymru’r unfed ganrif ar bymtheg, yn archwilio’r berthynas rhwng cyhuddiadau o ddewiniaeth, y corff benywaidd ac atgynhyrchu . Mae Mari’n byw ar arfordir gorllewinol Cymru gyda’i gŵr, eu dau fab, a’u poochon annwyl iawn. 

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811