Ysgrifennu am Fwyd

Gwe 26 Gorffennaf 2024 - Sul 28 Gorffennaf 2024
Tiwtoriaid / Angela Hui & Rebecca May Johnson
Ffi’r Cwrs / O £375 y pen
Genres / BwydFfeithiol
Iaith / Saesneg

Ymunwch â ni ar y cwrs penwythnos hwn, lle byddwch yn dysgu sut i ychwanegu sbeis, blas a sylwedd i’ch sgwennu. Yn ystod y cwrs, byddwch yn archwilio gwahanol ffurfiau o ysgrifennu bwyd – o gofiant i lyfr coginio, o ffuglen i flog. Byddwch yn cael eich annog i ystyried sut mae’r bwyd rydyn ni’n ei goginio, y ffyrdd rydyn ni’n ei baratoi, ynghyd â’r ffyrdd rydyn ni’n ei rannu a’i fwyta, yn siapio pwy ydyn ni a’n perthynas gyda’r bobl a’r byd o’n cwmpas. Bydd y tiwtoriaid, dwy awdur ac ysgrifennwr bwyd sydd wedi ennill gwobrau, Angela Hui a Rebecca May Johnson yn trafod sut gellir trawsnewid y gegin o fod yn ofod domestig i weithgaredd deallusol a chreadigol. O’r defodau sy’n rhan o greu pryd bwyd, y mwynhad personol neu gymunedol sy’n dilyn, a’r ddeinameg â’r wleidyddiaeth gymhleth a geir o gwmpas y bwrdd swper, bydd y tiwtoriaid yn eich cefnogi i archwilio ysgrifennu bwyd a choginio fel ffordd o brofi’r hunan a’r byd o’r newydd. Byddwch yn gadael y penwythnos wedi cael blas newydd sbon ar ysgrifennu, yn awchu am fynd â’ch coginio a’ch ysgrifennu i lefydd newydd.

Tiwtoriaid

Angela Hui

Mae Angela Hui yn newyddiadurwr a golygydd arobryn, a hi yw awdur Takeaway: Stories from a Childhood Behind the Counter (Orion, 2022). Mae ei gwaith wedi ei gyhoeddi yn The Guardian, Financial Times, HuffPost, Independent, Lonely Planet, Refinery29, The Times a Vice ymysg eraill. Hi oedd golygydd bwyd a diod cylchgrawn Time Out, a golygydd REKKI. Ar hyn o bryd, mae hi’n gweithio’n llawrydd.  

 

Rebecca May Johnson

Mae Rebecca May Johnson yn awdur. Small Fires, An Epic in the Kitchen (Pushkin Press, 2022) yw ei llyfr cyntaf ac fe gyrhaeddodd restr fer Llyfr y Flwyddyn Foyles yn 2022. Mae gwaith Rebecca wedi ymddangos yn Granta, Daunt Books, Financial Times Magazine, a’r Times Literary Supplement, ymysg eraill. Mae hi'n olygydd ar y cyhoeddiad arloesol ysgrifennu bwyd Vittles ac mae ganddi PhD mewn llenyddiaeth gyfoes. 

 

 

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811