Awdur plant a phobl ifanc yw Patrice Lawrence, sydd wedi ennill sawl gwobr ac sydd â chefndir mewn cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb. Mae’n ysgrifennu ar draws genres a grwpiau oedran. Roedd ei llyfr cyntaf i oedolion ifanc, Orangeboy (Hachette, 2016), ar restr fer Gwobr Plant Costa ac enillodd Wobr Oedolion Ifanc The Bookseller a Gwobr Waterstones am Ffuglen i Blant Hŷn. Mae hi wedi cael ei henwebu ar gyfer Medal Carnegie saith gwaith - a chyrraedd y rhestr fer unwaith. Mae ei gwobrau’n cynnwys Gwobr Llyfr Little Rebels, y Wobr Jhalak gyntaf ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, Gwobr Drama Arddegwyr Woman and Home, a Gwobr Oedolion Ifanc CrimeFest ddwywaith. Yn 2023, daeth yn Gymrawd y Gymdeithas Lenyddol Frenhinol. Mae Patrice yn gweithio’n helaeth mewn ysgolion yn ysbrydoli pobl ifanc i ddod yn adroddwyr straeon ac yn mentora awduron sy’n oedolion o gefndiroedd wedi’u tangynrychioli ym myd cyhoeddi traddodiadol Prydain.
Ysgrifennu Ffuglen ar gyfer Plant a Phobl Ifanc
Hoffech chi ysgrifennu ar gyfer plant a phobl ifanc? Ydy eich llyfr nodiadau neu liniadur yn llawn dop o blotiau a chymeriadau rydych chi’n ansicr ble i fynd â nhw nesaf? Bydd y cwrs hwn yn cynnig y blociau adeiladu er mwyn eich helpu i droi eich syniadau yn straeon cydlynus a fydd yn ysbrydoli, yn herio, ac yn diddanu eich cynulleidfaoedd ifanc. Gyda chefnogaeth dau diwtor ac awdur profiadol a chlodwiw, Patrice Lawrence a Lee Newbery, byddwch yn cymryd rhan mewn gweithdai grŵp ar ddatblygu cymeriadau, deialog, lleoliad, plotio, a llunio cymeriadau â gwahanol gefndiroedd i chi. Bydd y tiwtoriaid hefyd yn neilltuo amser i dynnu’r dirgelwch o’r diwydiant cyhoeddi a’r byd asiantau, ac yn rhannu cyngor ar sut i greu gyrfa gynaliadwy fel awdur plant a phobl ifanc. Bydd sesiynau unigol gyda phob tiwtor ar gael yn ystod yr wythnos, lle byddwch yn cael adborth a chyngor unigol ar fireinio eich crefft a chyfeiriad eich gwaith. Byddwch yn gadael gyda hyder a chymhelliant o’r newydd, ochr yn ochr â dealltwriaeth ddyfnach o sut i ysgrifennu ffuglen ystyrlon, gymhellol, a pherthnasol i blant ac oedolion ifanc.
Tiwtoriaid

Patrice Lawrence

Lee Newbery
Mae Lee Newbery yn byw gyda’i ŵr, ei fab a’u ci mewn tref lan môr yn y de. Mae ei lyfr cyntaf, The Last Firefox (Penguin, 2022) wedi bod yn Llyfr Plant y Mis Waterstones, ac wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Llyfr i Blant Waterstones 2023. Enillodd hefyd Wobr Barn y Bobl Wales Arts Review fel rhan o Wobr Llyfr y Flwyddyn 2023. Mae Lee’n mwynhau anturiaethau, yfed llwyth o de, a rhoi cwtsh mawr i’w gi.
Darllenydd Gwadd

Caryl Lewis (Digidol)
Mae Caryl Lewis yn ddramodydd a sgriptiwr Cymraeg sydd wedi ennill sawl gwobr. Mae ei nofel arloesol Martha, Jac a Sianco (2004) yn cael ei hystyried yn glasur modern o lenyddiaeth Gymraeg, ac mae’n eistedd ar y cwricwlwm Cymreig. Aeth yr addasiad ffilm – gyda sgript gan Caryl Lewis ei hun – ymlaen i ennill chwe gwobr BAFTA Cymraeg a Gwobr Ysbryd yr Ŵyl yng Ngŵyl Cyfryngau Celtaidd 2010. Mae ei gwaith sgriptio sgrîn hefyd yn cynnwys y ffilmiau cyffro BBC/S4C Hinterland a Hidden. Mae mae’n ddarlithydd gwadd mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn byw gyda’i theulu ar fferm ger Aberystwyth. Drift yw ei nofel gyntaf yn yr iaith Saesneg.