Mae Casia Wiliam yn fardd ac awdur llawrydd. Bu’n Fardd Plant Cymru rhwng 2017-2019 ac mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau gwreiddiol i blant. Enillodd Wobr Tir Na nOg yn 2021 gyda’i nofel Sw Sara Mai.
Ysgrifennu ar gyfer Plant
11.00 am – 4.00 pm
Ymunwch â ni ar gyfer diwrnod o ddysgu sut i ysgrifennu ar gyfer plant. Cyfle i drafod ac ymarfer ysgrifennu ar gyfer plant; o gymeriadu i ysgrifennu deialog, i weithio gyda gwasg a chyhoeddi eich gwaith. Bydd y cwrs undydd hwn yn gyfle i feddwl yn fanwl am rhai technegau ac ymarferion ysgrifennu, yn ogystal â chael gwybodaeth ymarferol am sut i geisio cyhoeddi eich gwaith gorffenedig. Mae croeso i awduron profiadol neu unrhyw un sydd ar ddechrau eu taith ymuno ar y cwrs hwn.
Dyma gwrs addas i awduron newydd sbon, ac i awduron mwy profiadol fel ei gilydd.
Bydd cyngor parod gan Llenyddiaeth Cymru ar ôl y cwrs i’r rhai ohonoch fydd yn awyddus i edrych ar y llwybrau tuag at gyhoeddi.
Mae ein cyrsiau undydd yn addas i unigolion sydd heb brofiad o gwbl yn y byd ysgrifennu creadigol, ac i’r rheiny sydd eisoes â pheth profiad. Mewn awyrgylch groesawgar, gynnes, bydd cyfle i chi ddysgu gan diwtoriaid sydd yn arbenigwyr yn eu maes. Mae croeso i’r chwilfrydig, ac i’r rheiny sydd yn edrych am ddiwrnod o hwyl ac am gael dysgu rhywbeth newydd. Os am drafod os yw’r cwrs hwn, neu unrhyw un o gyrsiau rhaglen 2023 yn addas i chi, cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol. |
Bydd te, coffi a melysion ar gael drwy’r dydd, a gweinir cinio ysgafn i bawb fel rhan o bris y cwrs. Os yn teithio o bell, neu awydd aros dros nos, holwch ni am bris llety neu cymrwch gip ar ein Bwthyn Encil Awduron, Nant.
Tiwtor
