Barddoniaeth ac Ysgrifennu Caneuon

Llu 11 Mawrth 2024 - Gwe 15 Mawrth 2024
Tiwtoriaid / Brian Briggs & Paul Henry
Ffi’r Cwrs / O £625 - £725 y pen
Genres / BarddoniaethYsgrifennu Caneuon
Iaith / Saesneg

Gan archwilio’r ffiniau rhwng cerddi a geiriau cân, bydd y cwrs hwn yn apelio at feirdd a chyfansoddwyr fel ei gilydd. Bydd hefyd yn addas i’r rheiny sy’n newydd i ysgrifennu ac sy’n chwilfrydig i brofi eu dawn yn y meysydd hyn. Drwy weithdai a thiwtorialau, awn ati i archwilio beth all y ddwy ddisgyblaeth ei ddysgu gan ei gilydd, gan gynnwys dylanwad alaw a rhythm ar ein gwaith.

Gan droi cerddi yn eiriau cân ac i’r gwrthwyneb, byddwn ni’n dangos sut mae geiriau yn gallu ymddwyn yn wahanol boed ar y dudalen neu wrth eu canu, a sut y mae’r gwahaniaeth hwn yn dylanwadu ar ein dewis o iaith a thôn, a lle mae’r pwyslais yn ein llinellau.

Os ydych chi’n fardd sy’n ceisio mireinio telynegiaeth eich ‘llais’, neu’n awdur caneuon sy’n awyddus i ehangu cwmpas eich geiriau, dyma gyfle i dorri tir newydd a rhoi cynnig ar ddulliau newydd mewn awyrgylch cyfeillgar a chefnogol. Ac os ydych chi’n chwarae offeryn, dewch ag o gyda chi!

Tiwtoriaid

Brian Briggs

Brian Briggs yw canwr-gyfansoddwr Stornoway, band gwerin indi, amgen. Stornoway oedd y band cyntaf heb ei arwyddo i ymddangos ar Later... With Jools Holland ac ers hynny maent wedi teithio i’r pedwar ban, gan gynnwys perfformio ar brif lwyfannau gwyliau fel Glastonbury, Latitude ac Ynys Wyth. Mae tri albwm a thri EP llwyddiannus Stornoway yn cyfuno’r ddau faes sydd agosaf at galon Brian, sef cerddoriaeth a byd natur. Cyrhaeddodd y record ddiweddaraf, sef Bonxie yn 2015, ugain uchaf siartiau’r Deyrnas Unedig ac mae arni ganeuon ugain rhywogaeth wahanol o adar. 

Zed Nelson

Paul Henry

Daeth Paul Henry at farddoniaeth trwy gyfansoddi caneuon. Mae ei naw llyfr (oll wedi eu cyhoeddi gan Seren) yn cynnwys The Brittle Sea (2010), Boy Running (2015) ac As If To Sing (2022) a enillodd Wobr Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn. Yn wreiddiol o Aberystwyth, mae Paul wedi bod yn olygydd gwadd i Poetry Wales ac wedi dysgu Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol De Cymru. Mae wedi ymddangos mewn gwyliau yn Ewrop, UDA ac Asia. Mae Paul hefyd wedi cyflwyno rhaglenni celfyddydol ar gyfer Radio Wales, BBC Radio 3 a Radio 4. 

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811