Mae Bethan Gwanas yn awdur dros 40 o lyfrau i blant ac oedolion. Mae hefyd wedi bod yn olygydd, yn gyflwynydd teledu, yn diwtor ysgrifennu creadigol ac yn diwtor Cymraeg i oedolion a gallai gweddill ei CV yn hawdd iawn ddarllen fel nofel. Enillodd wobr Tir Na n-Og am ei llyfrau i’r arddegau gyda Llinyn Trôns (Y Lolfa, 2000) a Sgôr (Y Lolfa, 2002), a hi oedd enillydd cyntaf Gwobr Goffa T Llew Jones am nofel i blant gyda Gwylliaid (Gomer 2014).
Ysgrifennu Creadigol i Ddysgwyr Cymraeg
Cwrs yw hwn ar gyfer dysgwyr Cymraeg sydd wedi cyrraedd lefel Canolradd ac Uwch sy’n hoffi ysgrifennu creadigol, boed yn straeon byrion, deialog, disgrifiadau, drama radio neu unrhyw ffurf arall. Bydd pawb yn cael cyfle i siarad ac ymarfer eu Cymraeg ar y cwrs, a byddwch yn gwella eich sgiliau sgwrsio, ond yr ysgrifennu bydd yn cael y sylw pennaf ar y penwythnos hwn. Bydd cyfle i weithio mewn grwpiau, ac ar eich pen eich hun hefyd, a byddwn yn defnyddio pob math o bethau i’ch ysbrydoli yn cynnwys teithiau cerdded byrion o amgylch ardal hyfryd Tŷ Newydd a thasgau ysgrifennu.
Mae Bethan yn siarad iaith y gogledd a Siôn yn siarad iaith y de, felly mae’n gwrs addas i ddysgwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt. Noder os gwelwch yn dda nad yw’r cwrs hwn yn addas ar gyfer dechreuwyr.
Mae cyrsiau penwythnos yn cychwyn yn hwyr ar brynhawniau Gwener, ac yn dod i ben ar ôl cinio ar y dydd Sul.
Tiwtoriaid

Bethan Gwanas

Siôn Tomos Owen
Mae Siôn Tomos Owen yn ddarlunydd, awdur a chyflwynydd o’r Rhondda Fawr. Astudiodd yng Ngholeg Celf, Dylunio a Thechnoleg Morgannwg gan arbenigo mewn darlunio cyn mynd ymlaen i Goleg y Drindod, Caerfyrddin i astudio'r Cyfryngau ac Ysgrifennu Creadigol. Mae ei waith wedi ymddangos yn Wales Arts Review, Planet, Poetry Wales, Cheval, Red Poets a Lol. Cyhoeddwyd casgliad o’i waith, Cawl, gan Parthian yn 2016 a llyfr i ddysgwyr lefel sylfaen, Y Fawr a’r Fach: Straeon o’r Rhondda gan Y Lolfa yn 2019. Pan nad yw’n darlunio, paentio murluniau neu'n cynnal gweithdai creadigol gyda’i gwmni CreaSiôn, mae’n rhan o dîm cyflwyno Cynefin ar S4C.