Ysgrifennu Creadigol i Siaradwyr Newydd

Gwe 20 Mawrth 2026 - Sul 22 Mawrth 2026
Tiwtoriaid / Bethan Gwanas & Dafydd Llewelyn
Ffi’r Cwrs / O £300 - £400 y pen
Genres / BarddoniaethDysgu CymraegFfeithiolFfuglen
Iaith / Cymraeg

Cwrs yw hwn ar gyfer dysgwyr Cymraeg sydd wedi cyrraedd lefel Canolradd ac Uwch sy’n hoffi ysgrifennu creadigol, boed yn straeon byrion, deialog, disgrifiadau, drama radio neu unrhyw ffurf arall. Bydd pawb yn cael cyfle i siarad ac ymarfer eu Cymraeg ar y cwrs, a byddwch yn gwella eich sgiliau sgwrsio, ond yr ysgrifennu bydd yn cael y sylw pennaf ar y penwythnos hwn. Bydd cyfle i weithio mewn grwpiau, ac ar eich pen eich hun hefyd, a byddwn yn defnyddio pob math o bethau i’ch ysbrydoli yn cynnwys teithiau cerdded byrion o amgylch ardal hyfryd Tŷ Newydd a thasgau ysgrifennu.

Mae Bethan a Dafydd yn siarad iaith y gogledd ond mae’n gwrs addas i ddysgwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt. Noder os gwelwch yn dda nad yw’r cwrs hwn yn addas ar gyfer dechreuwyr.

Mae cyrsiau penwythnos yn cychwyn yn hwyr ar brynhawniau Gwener, ac yn dod i ben ar ôl cinio ar y dydd Sul.

 

Bwrsariaethau

Mae un ysgoloriaeth gwerth £150 ar gael ar gyfer y cwrs hwn. I ymgeisio, cwblhewch y ffurflen gais yma.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 20 Ionawr 2026.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r gefnogaeth sydd ar gael, ewch i’n tudalen Cymorth Ariannol: https://www.tynewydd.cymru/cyrsiau-ac-encilion/cymorth-ariannol/

Tiwtoriaid

Bethan Gwanas

Mae Bethan Gwanas yn awdur dros 40 o lyfrau i blant ac oedolion. Mae hefyd wedi bod ynolygydd, yn diwtor ysgrifennu creadigol ac yn diwtor Cymraeg i oedolion (ac mae gweddill ei CV yn darllen fel nofel). Enillodd wobr Tir Na n-Og am ei llyfrau i’r arddegau gyda Llinyn Trôns (Y Lolfa, 2000) a Sgôr (Y Lolfa, 2002), a hi oedd enillydd cyntaf Gwobr Goffa T Llew Jones am nofel i blant gyda Gwylliaid (Gomer 2014).  

Dafydd Llewelyn

Magwyd Dafydd Llewelyn yn Abergele ac addysgwyd yn Ysgol Gynradd Glan Morfa ac ysgolion uwchradd Glan Clwyd a'r Creuddyn cyn mynd ymlaen i'r Brifysgol ym Mangor. Enillodd rai o brif wobrau eisteddfodau'r Urdd a'r Genedlaethol ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio i'r BBC. Dros y blynyddoedd mae wedi ysgrifennu ar gyfer y theatr, radio a theledu ac wedi bod yn olygydd sgript ac yn gynhyrchydd ar sioeau fel Pobol y Cwm (BBC), Casualty (BBC), Lan a Lawr (Boom) a Stad (Cwmni Da a Cwmni Triongl). Mae hefyd wedi ysgrifennu llyfrau plant a nofelau.

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811