Cafodd hunangofiant Tiffany Murray, My Family and Other Rock Stars (Little, Brown Book Group, 2024), ei alw’n llyfr y flwyddyn gan The Sunday Times, The Guardian a The Independent. Mae hi wedi addasu’r gwaith ar gyfer y teledu gyda Kite Entertainment. Mae ei nofelau, Diamond Star Halo (Granta Books, 2011), Happy Accidents (Harper Collins, 2005), a Sugar Hall (Seren Books, 2014) yn eu tro wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Wodehouse Bollinger ac wedi cael Gwobr Roger Deakin am ysgrifennu natur. Mae hi wedi bod yn Gymrawd Rhyngwladol Ffuglen Gŵyl y Gelli, yn ysgolhaig Fulbright, yn Uwch Ddarlithydd, ac mae ei drama sydd wedi’i gosod yng Ngwlad yr Iâ – Hulda’s Café – ar gael ar BBC Sounds. Mae Tiffany’n gyfarwyddwr prosiect ar raglen ddatblygu lwyddiannus Gŵyl y Gelli, ‘Awduron wrth eu Gwaith.’ www.curtisbrown.co.uk/client/tiffany-murray
Ysgrifennu Dy Hun i Mewn: Yr ysgrif personol a chofiannau
Nod y cwrs yma yw archwilio sut y gall awduron ddefnyddio eu straeon personol i ysgrifennu’n gredadwy am bynciau sydd ag apêl gyffredinol eang. Bydd y cwrs yn cynnwys trafodaethau gonest ar gyfrwng ysgrifennu sy’n boblogaidd iawn yn y diwydiant cyhoeddi ar hyn o bryd.
Yn benodol, mae’r cwrs hwn yn anelu i gyflwyno awduron sydd ar ddechrau eu gyrfa (ac awduron mwy adnabyddus sydd, o bosib, sydd am archwilio ysgrifennu’n ffeithiol) i syniadau, arferion, a dadleuon ynghylch cyffredinolrwydd gwaith ffeithiol greadigol yn ei gyfanrwydd. Bydd y tiwtoriaid yn cynnal cyfres o weithdai, grwpiau trafod a thiwtorialau gan edrych ar y gwahanol ffyrdd y gellir fframio stori bersonol awdur o fewn digwyddiadau hanesyddol, patrymau diwylliannol, a ffenomenon cymdeithasol. Bydd y sesiynau yma hefyd yn archwilio sut y gall yr awdur osod ei stori ei hun ym mhynciau ehangach yr argyfwng hinsawdd, costau byw, rhaniad gwleidyddol, tueddiadau diwylliannol, ac ysgrifennu am ffeithiau. Ar ddechrau’r cwrs, bydd y mynychwyr yn cael eu cefnogi i ddewis pwnc a ffurf i weithio arno drwy gydol yr wythnos, fel y bydd ganddynt, erbyn diwedd y cwrs, ddrafft gweithredol o draethawd personol cyffrous. Bydd y gweithdai’n cynnwys “Dod o Hyd i’ch Pwnc”, “Trac Sain Eich Bywyd”, “Arbrofi â Ffurf”, “Defnyddio Technegau Gweithiau Ffuglen mewn Gweithiau Ffeithiol”, a “Cysylltu â’r Darllenydd”.
Bwrsariaethau
Mae un ysgoloriaeth gwerth £250 ar gael ar gyfer y cwrs hwn. I ymgeisio, cwblhewch y ffurflen gais yma.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Mawrth 15 Gorffennaf 2025.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r gefnogaeth sydd ar gael, ewch i’n tudalen Cymorth Ariannol: https://www.tynewydd.cymru/cyrsiau-ac-encilion/cymorth-ariannol/
Tiwtoriaid
Tiffany Murray
Gary Raymond
Awdur a darlledwr yw Gary Raymond. Bu'n olygydd Wales Arts Review am ddeuddeg mlynedd, mae'n gyn-gyflwynydd y Review Show ar gyfer BBC Radio Wales, ac ar hyn o bryd mae'n gyflwynydd un o raglenni blaenllaw BBC Radio Wales, Arts Show. Mae wedi ysgrifennu chwe llyfr, gan gynnwys tair nofel a thri llyfr ffeithiol. Bydd ei lyfr nesaf, Hard Rain, am lifogydd trychinebus Dyffryn Gwy yn 2025, yn cael ei gyhoeddi gan Picador ddechrau 2028. Yn fwyaf diweddar mae i'w glywed fel cyflwynydd podlediad y Wales Arts Review sy'n cynnwys sgyrsiau estynedig gydag awduron ac artistiaid. Mae hefyd yn berchen ar siop recordiau.
Darllenydd Gwadd
Kathryn Tann (Digidol)
Mae Kathryn Tann yn awdur, golygydd a chynhyrchydd creadigol sy'n wreiddiol o arforfdir de Cymru. Cyhoeddwyd ei chasgliad traethawd cyntaf, Seaglass, gan Calon Books yn 2024, a hi yw cyflwynydd a chynhyrchydd This Place – podlediad sy'n siarad ag awduron a meddylwyr yn y tirweddau a'u dylanwadodd. Mae hi'n gyd-sylfaenydd ac yn gyd-gyfarwyddwr Folding Rock Magazine, ac mae ganddi gefndir mewn cyhoeddi a rhaglennu llenyddiaeth. Mae ei gwaith ei hun wedi ymddangos yn The Guardian, The Scotsman, Nation.Cymru a Simple Things, ymhlith eraill, ac mae hi'n siarad yn rheolaidd mewn digwyddiadau.