Mae Taylor Edmonds yn fardd, yn awdur ac yn hwylusydd creadigol o'r Barri. Hi yw sylfaenydd Writing for Joy, lle mae hi'n cynnal gweithdai ysgrifennu ar gyfer lles i grwpiau cymunedol, elusennau, ysgolion, ysbytai a chleientiaid corfforaethol, yn ogystal â chynnal clwb dyddiadur ar-lein. Cenhadaeth Taylor yw darparu sesiynau sy'n hyrwyddo'r effaith gadarnhaol y mae creadigrwydd yn ei chael ar iechyd meddwl a lles, gan gynnig cyfle i fyfyrio, bod yn bresennol ac arafu. Mae cyhoeddiadau Taylor yn cynnwys Back Teeth (Broken Sleep Books, 2022) a Gathering (404 Ink, 2024) a The Waters that Raised Us (Seren, i ddod 2026.) Llwyfannwyd sioe gyntaf Taylor yn y theatr, Demand the Impossible, ag ysgrifennodd ar gyfer theatr Common Wealth, yn 2025.
Ysgrifennu er Llesiant
Gall ysgrifennu fod yn weithred bwerus a therapiwtig. Bydd y cwrs penwythnos hwn yn eich gwahodd i ymgysylltu ag ysgrifennu fel modd o fyfyrio, mynegi eich hunain, a deall rhai o brofiadau bywyd, a hynny i gyd wrth gydnabod yr heriau o ysgrifennu a sut gall y broses o roi geiriau i brofiadau personol eich gorfodi i ddatguddio a wynebu gwirioneddau.
Trwy gymysgedd o ymarferion ysgrifennu dan arweiniad, detholiad o destunau i’w darllen, a thrafodaethau grŵp – yn ogystal ag amser i gysylltu â’r tirwedd o’ch cwmpas – byddwch yn archwilio sut i ysgrifennu’n onest am emosiynau cymhleth a phynciau anodd tra hefyd yn diogelu eich hunain.
Byddwch hefyd yn archwilio strategaethau ar gyfer gofalu am eich hunain o fewn eich ymarfer creadigol. Bydd y tiwtor yn eich annog i ystyried sut i ysgrifennu trwy gyfnodau anodd heb or-flino, a sut i drin ein gwaith – a chi’ch hunain – gyda gofal yn hytrach na beirniadaeth.
Dan arweiniad y bardd a’r hwylusydd Taylor Edmonds, bydd y cwrs penwythnos hwn yn cynnig gofod arbennig iawn yng nghanol yr hydref yn Nhŷ Newydd – lleoliad gwirioneddol ddelfrydol i oedi, myfyrio, ac ysgrifennu.
Tiwtor
Taylor Edmonds
Darllenydd Gwadd
Darllenydd Gwadd
Bydd y darllenydd gwadd ar gyfer y cwrs hwn yn cael ei gyhoeddi'n fuan iawn.