Mae Jay Teague (nhw/eu) yn awdur, hwylusydd ac yn Ymarferydd Therapi Barddoniaeth sy’n byw yn Eryri. Mae’n nodi fod byw a gweithio mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol wedi chwarae rhan allweddol yn eu hiechyd a’u llesiant, ac yn parhau i fod o help er mwyn ysbrydoli eu hymarfer presennol. Mae Jill yn Gyfarwyddwr Gweithredol i iaPOETRY (yr Academi Ryngwladol ar gyfer Therapi Barddoniaeth), ac yn Uwch Fentor ar gyfer yr academi – gan fentora a hyfforddi Ymarferwyr Therapi Barddoniaeth newydd, a’r rheiny sy’n dymuno dod yn fentoriaid. Mae Jill wedi derbyn nifer o wobrau ac ysgoloriaethau gan NAPT (National Association for Poetry Therapy) a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru ar gyfer gwaith arloesol ym maes therapi barddoniaeth, yn ogystal ag ysgoloriaethau gan BridgeXngs Poetry Centre, Efrog Newydd. Sefydlodd Jill Out of the Blue Writing, sef cwmni sy’n hwyluso grwpiau ysgrifennu, yn gweithio gydag unigolion ac yn darparu cyrsiau ar-lein.
Ysgrifennu er Llesiant
Gall ysgrifennu fod yn weithred bwerus a therapiwtig. Bydd y cwrs penwythnos hwn yn eich gwahodd i ymgysylltu ag ysgrifennu fel modd o fyfyrio, mynegi eich hunain, a deall rhai o brofiadau bywyd, a hynny i gyd wrth gydnabod yr heriau o ysgrifennu a sut gall y broses o roi geiriau i brofiadau personol eich gorfodi i ddatguddio a wynebu gwirioneddau.
Trwy gymysgedd o ymarferion ysgrifennu dan arweiniad, detholiad o destunau i’w darllen, a thrafodaethau grŵp – yn ogystal ag amser i gysylltu â’r tirwedd o’ch cwmpas – byddwch yn archwilio sut i ysgrifennu’n onest am emosiynau cymhleth a phynciau anodd tra hefyd yn diogelu eich hunain.
Byddwch hefyd yn archwilio strategaethau ar gyfer gofalu am eich hunain o fewn eich ymarfer creadigol. Bydd y tiwtor yn eich annog i ystyried sut i ysgrifennu trwy gyfnodau anodd heb or-flino, a sut i drin ein gwaith – a chi’ch hunain – gyda gofal yn hytrach na beirniadaeth.
Dan arweiniad y bardd a’r hwylusydd Taylor Edmonds, bydd y cwrs penwythnos hwn yn cynnig gofod arbennig iawn yng nghanol yr hydref yn Nhŷ Newydd – lleoliad gwirioneddol ddelfrydol i oedi, myfyrio, ac ysgrifennu.
Tiwtor
Jay Teague
Darllenydd Gwadd
Gwyneth Lewis
Gwyneth oedd y cyntaf i fod yn Fardd Cenedlaethol Cymru, a hi yw awdur y geiriau hudolus sydd i’w gweld ar flaen adeilad Canolfan y Mileniwm, Caerdydd. Yn fardd arobryn yn Gymraeg a Saesneg, ei chasgliad diweddaraf oedd First Rain in Paradise (Bloodaxe, 2025). Enillodd ei thrydedd hunangofiant, Nightshade Mother: A Disentangling (Calon 2024), gategori Ffeithiol Greadigol Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2025, yn ogystal â chael ei enwebu am wobr Sky Arts.