Awdur a nyrs plant o Gymru yw Emma Glass, ac y mae hi bellach yn byw ac yn gweithio yn Llundain. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Peach, gan Bloomsbury yn 2018. Erbyn hyn, mae Peach wedi ei gyfieithu i saith iaith wahanol ac fe gyrhaeddodd y rhestr hir ar gyfer Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas. Mae Rest and Be Thankful (Bloomsbury, 2020), ei hail nofel, yn cael ei addasu fel ffilm ar hyn o bryd.
Ysgrifennu Ffuglen Fer
Oes gennych chi nofel neu gasgliad o straeon byrion ar y gweill? A oes angen amser arnoch i ganolbwyntio ar eich gwaith dan arweiniad creadigol a phroffesiynol er mwyn eich helpu i fireinio’ch gwaith ymhellach? Ymunwch â’r awduron enwog a’r tiwtoriaid profiadol, Emma Glass a Sophie Mackintosh am wythnos o weithdai grŵp a thrafodaethau, darlleniadau, ysgogiadau creadigol ac adborth un-i-un pwrpasol. Pa bynnag gam rydych wedi’i gyrraedd, ynghyd â’r tiwtoriaid, byddwch yn ystyried cymeriad, ffyrdd o adeiladu byd ffuglen cymhellol, strwythur naratif, y posibiliadau a gynigir o fewn iaith, ochr yn ochr â dulliau newydd o olygu eich gwaith. Bydd yr awdur arobryn Joe Dunthorne yn ymuno â chi hefyd am sesiwn darllenydd gwadd digidol, fydd yn sicr o danio’ch dychymyg.
Erbyn diwedd yr wythnos, gallwch ddisgwyl bod â dealltwriaeth fwy trylwyr o ysgrifennu cryno, cymhellol, a chyfoes, a bod yn berchen ar syniadau wedi’u hadfywio, yr hyder i arbrofi gyda ffurf, strwythur ac iaith, ac agwedd newydd at olygu eich gwaith.
Tiwtoriaid

Emma Glass

Sophie Mackintosh
Sophie Mackintosh yw awdur The Water Cure (Hamish Hamilton, 2018), Blue Ticket (Hamish Hamilton, 2020), a Cursed Bread (Penguin, 2023). Roedd The Water Cure ar restr hir Gwobr Man Booker 2018. Mae ei ffuglen, gwaith ffeithiol-greadigol a barddoniaeth wedi ymddangos yn The New York Times, Granta, Dazed, The Guardian, a The Stinging Fly, ymhlith eraill. Yn 2020 cafodd ei dewis fel ‘awdur fydd yn diffinio’r ddegawd i ddod’ gan Vogue UK, ochr yn ochr â’r awduron Jia Tolentino ac Oyinkan Braithwaite. Mae hi wedi bod yn awdur preswyl ym Mhreswylfa Awduron Paris, Dinas Llenyddiaeth Prague, a Llyfrgell Gladstone. www.sophiemackintosh.co.uk
Darllenydd Gwadd

Joe Dunthorne (Digidol)
Ganed a magwyd Joe Dunthorne yn Abertawe. Cyfieithwyd ei nofel gyntaf, Submarine (Penguin, 2011), i ugain iaith a’i throi’n ffilm arobryn. Enillodd ei ail nofel, Wild Abandon (Penguin, 2012), Wobr Encore y Society of Authors. Ei nofel ddiweddaraf yw The Adulterants (Penguin, 2019). Cyhoeddwyd ei gasgliad cyntaf o gerddi, O Positive, gan Faber & Faber yn 2019. Mae ei waith wedi’i gyhoeddi yn y New York Review of Books, London Review of Books, The Paris Review, McSweeney’s, Granta, The Guardian a The Atlantic. Mae'n byw yn Llundain.