Natasha Pulley yw awdur The Watchmaker of Filigree Street (Bloomsbury, 2016), The Bedlam Stacks (Bloomsbury, 2018), The Lost Future of Pepperharrow (Bloomsbury, 2020), The Kingdoms (Bloomsbury, 2021) a The Half Life of Valery K (Bloomsbury, 2022). Yn werthwr gorau rhyngwladol, enillodd The Watchmaker of Filigree Street Wobr Betty Trask a chyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Nofel Gyntaf Orau'r Author's Club, Gwobrau Locus, ac arhosodd ar restr gwerthwyr gorau'r Sunday Times am ran helaeth o haf 2016. Roedd The Bedlam Stacks ar y rhestr hir ar gyfer Gwobr Walter Scott ac ar restr fer Gwobr Encore. Mae Natasha wedi byw yn Japan fel Ysgolhaig Daiwa, yn ogystal â Tsieina a Pheriw. Roedd hi’n Awdur Preswyl Gladstone yn 2016, ac mae’n dysgu ar gwrs BA Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Bath Spa, ochr yn ochr â chyrsiau byr yn Sefydliad Addysg Barhaus Caergrawnt. Bydd ei nofel ddiweddaraf, The Mars House, yn cael ei chyhoeddi gan Orion yn 2024.
Ysgrifennu Ffuglen Hanesyddol
Beth mae ysgrifennu am y gorffennol yn ei ddweud am y presennol? Ymunwch ag awdur â sawl gwobr i’w henw, Natasha Pulley, yn ogystal ag awdur sydd wedi cael ei chynnwys ar restr gwerthwyr gorau’r Sunday Times, Susan Stokes-Chapman, i archwilio byd cyfareddol ysgrifennu hanesyddol ffurf hir. Yn ystod yr wythnos, byddwch yn dianc yn ôl mewn amser ac yn cael ysbrydoliaeth gan bobl a digwyddiadau go iawn o’ch teulu a’ch ardal leol chi, yn ogystal â rhai o gymeriadau a chwedlau mwyaf adnabyddus hanes. Drwy fynd ar y cwrs hwn, byddwch yn cael gwell dealltwriaeth o sut i gyfleu ymdeimlad o amser a lle, a dod â’ch ymchwil yn fyw.
Os ydych chi’n dymuno datblygu darn newydd o waith ffuglennol, neu os ydych chi’n chwilfrydig am stori unigol neu ddigwyddiad hanesyddol, bydd y tiwtoriaid yn eich tywys drwy’r broses o ymchwilio ac adeiladu naratif i sicrhau bod eich stori yn neidio o’r dudalen. Drwy weithdai cyfranogol, a thiwtorialau un-i-un, byddwch yn cael eich annog i ystyried i ba raddau mae modd i awduron ail-ddychmygu hanes a’r gwahaniaethau rhwng ffaith hanesyddol a ffuglen. Byddwch hefyd yn darganfod ffyrdd effeithiol o greu cymeriadau argyhoeddiadol, siapio bydoedd credadwy, a phlotio a gosod cyflymder eich naratif. Bydd pob gweithdy yn eich tywys – drwy drafodaeth, ymarferion ysgrifennu, ac ystyried theori (ysgafn) – i fagu hyder yn eich ysgrifennu a datblygu sgiliau a thechnegau newydd a fydd yn eich galluogi i adrodd hanes yn eich llais unigryw chi.
Bwrsariaethau
Mae un ysgoloriaeth gwerth £200 ar gael ar gyfer y cwrs hwn. I ymgeisio, cwblhewch y ffurflen gais yma. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Mercher, 19 Mehefin 2024
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r gefnogaeth sydd ar gael, ewch i’n tudalen Cymorth Ariannol: https://www.tynewydd.cymru/cyrsiau-ac-encilion/cymorth-ariannol/
Tiwtoriaid
Natasha Pulley
Susan Stokes-Chapman
Magwyd Susan Stokes-Chapman yn ninas Sioraidd hanesyddol Caerlwytgoed, Swydd Stafford, ac mae’n byw yng ngogledd-orllewin Cymru erbyn hyn. Astudiodd Addysg, Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Aeth ei nofel gyntaf Pandora (Vintage, 2023) yn syth i rif un ar restr gwerthwyr gorau’r Sunday Times, ac mae wedi’i chyfieithu i 16 iaith hyd yn hyn. Ail-ddehongliad bras o fyth Groegaidd Blwch Pandora wedi'i osod yn Llundain yn y ddeunawfed ganrif yw’r nofel, ac mae'n adrodd hanes Dora Blake, sydd â’i bryd ar fynd yn artist gemwaith, ac sy’n dod i gyswllt â llestr hynafol y mae ei hewythr gormesol yn awyddus iawn i'w gadw'n gyfrinach. Cafodd ei hail nofel The Shadow Key (Vintage) – stori Gothig wedi'i gosod yng Nghymru 1783 – ei rhyddhau yn 2024. Cafodd The Twelve Days of Christmas (Harvill) – casgliad o straeon byrion ar batrwm Jane Austen a Georgette Heyer – ei ryddhau yn 2025, a bydd trydedd nofel o'r enw The Constellations yn dilyn yn 2027. @SStokesChapman (Instagram) / www.susanstokeschapman.com
Darllenydd Gwadd
Vaseem Khan (Digidol)
Mae Vaseem Khan yn awdur dwy gyfres drosedd boblogaidd wedi'u gosod yn India, cyfres Baby Ganesh Agency wedi'i gosod yn Mumbai gyfoes, a nofelau trosedd hanesyddol Malabar House a osodwyd yn Bombay yn y 1950au. Dewiswyd ei lyfr cyntaf, The Unexpected Inheritance of Inspector Chopra (Hodder, Mulholland Books, Hachette, 2015), gan The Sunday Times fel un o’r 40 nofel drosedd orau a gyhoeddwyd yn 2015-2020, ac mae wedi’i chyfieithu i 17 o ieithoedd. Enillodd yr ail yn y gyfres Wobr Shamus yn yr Unol Daleithiau. Yn 2021, enillodd Midnight yn Malabar House (Hodder & Stoughton, Hachette, 2020) Wobr Crime Writers Association Historical Dagger, prif wobr y byd am ffuglen trosedd hanesyddol ac roedd ar restr fer Gwobr Theakston’s Old Peculier Nofel Drosedd y Flwyddyn yn 2022. Pan nad yw'n ysgrifennu, mae'n gweithio yn Adran Gwyddorau Diogelwch a Throsedd yng Ngholeg Prifysgol Llundain. Ganed Vaseem yn Lloegr, ond treuliodd ddegawd yn gweithio yn India. Mae Vaseem hefyd yn cyd-gyflwno’r podlediad ffuglen trosedd poblogaidd, The Red Hot Chilli Writers. www.vaseemkhan.com