Mae Liz Hyder yn arweinydd gweithdai creadigol ac yn awdur sydd wedi ennill gwobrau. Mae'n ysgrifennu ar gyfer oedolion a darllenwyr iau, ac enillodd Bearmouth (Pushkin Children’s Books, 2019), sef ei nofel gyntaf i bobl ifanc, Wobr Branford Boase, Gwobr Llyfr Plant Waterstones i Ddarllenwyr Hŷn, ac roedd yn Llyfr Plant y Flwyddyn gyda The Times. Enillodd ei llyfr diweddaraf i bobl ifanc, The Twelve (Pushkin Children’s Books, 2024), wobr Nero Book Award ar gyfer Ffuglen Plant a Gwobr Tir na n-Og ar gyfer Ffuglen Plant Saesneg. Mae wedi ysgrifennu llyfrau llwyddiannus i oedolion, sef The Gifts (Manilla Press, 2022), a ddaeth yn ail yng Ngwobr McKitterick, a The Illusions (Manilla Press, 2022). Mae’n cynnal gweithdai ysgrifennu creadigol ers dros bymtheg mlynedd, mae wedi gweithio ym maes y celfyddydau fel ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ac mae wedi potsian ychydig ym myd newyddiaduraeth a gwneud ffilmiau.
Ysgrifennu Ffuglen i Bobl Ifanc
Llenyddiaeth a ysgrifennwyd ar gyfer darllenwyr rhwng tua 12 a 18 oed yw Ffuglen i Bobl Ifanc. Mae’n archwilio themâu fel tyfu i fyny, hunaniaeth, cyfeillgarwch, cariad a hunan ddarganfod. P’un ai ydych chi’n cael trafferth gorffen drafft cyntaf neu’n gobeithio cael ychydig o ysbrydoliaeth a chyngor doeth, dyma’r cwrs i chi.
Ymunwch â’r awduron llwyddiannus a’r tiwtoriaid profiadol Catherine a Liz ar gyfer gweithdai grŵp creadigol a hwyliog yn ymdrin â strwythur a stori, adeiladu bydoedd a chymeriadau, ac ymchwil a golygu. Byddwch hefyd yn cael tiwtorial un-i-un hanner awr gyda’r ddwy yn eu tro i drafod eich gwaith yn fanylach. Mae Catherine a Liz yn arbenigo mewn agwedd gadarnhaol ac ymarferol tuag at ysgrifennu creadigol, a’r nod fydd trosglwyddo hynny i chi hefyd. Yn ystod yr wythnos, gallwch ddisgwyl llu o ysgogiadau ac ymarferion creadigol, awgrymiadau defnyddiol a gwybodaeth ddefnyddiol, a byddwch yn gadael Tŷ Newydd yn sioncach eich cam gyda hyder i fwrw ymlaen â’ch syniadau.
Bydd hwn yn gwrs cynnes a chroesawgar i unrhyw un sy’n ysgrifennu ar gyfer pobl ifanc ar hyn o bryd neu sy’n meddwl am wneud hynny.
Tiwtoriaid
Liz Hyder
Catherine Johnson
Mae Catherine Johnson yn awdur nifer o lyfrau ar gyfer darllenwyr ifanc sydd wedi bod ar restrau’r gwerthwyr gorau, yn ogystal â gwaith ffilm, teledu a radio. Mae ei nofelau’n cynnwys Sawbones (Walker Books, 2013), sef enillydd gwobr ffuglen hanesyddol Young Quills, a sawl un arall sydd wedi’u henwebu ar gyfer Medal Carnegie. Mae ei gwaith radio yn cynnwys drama yn 2024 ar gyfer cyfres Medici BBC Radio 4 ac mae ei gwaith teledu yn cynnwys Rough Crossings gan Simon Schama, ac addasiad o The Black Tudors gan Miranda Kaufmann. Mae wedi dysgu ysgrifennu creadigol mewn sawl prifysgol, ac ar gyrsiau preswyl yng Nghymru, gwledydd Prydain a thramor.
Darllenydd Gwadd
Darllenydd Gwadd
Bydd y darllenydd gwadd ar gyfer y cwrs hwn yn cael ei gyhoeddi'n fuan iawn.