Awdur a sgriptiwr yw Danielle Jawando. Enillodd ei nofel gyntaf ar gyfer oedolion ifanc, And the Stars Were Burning Brightly (Simon & Schuster, 2020), y nofel hŷn orau yng Ngwobr Great Reads, a chyrhaeddodd restr fer Gwobr Llyfr Plant Waterstones, Gwobr Lyfrau YA, a Gwobr Jhalak Children's & YA , Gwobr Branford Boase ac roedd ar restr hir Medal Carnegie CILIP. Mae ei chyhoeddiadau blaenorol yn cynnwys y llyfr ffeithiol i blant Maya Angelou (Little Guides to Great Lives) (Hachette Children’s Group, 2019) yn ogystal â sawl drama fer a berfformiwyd ym Manceinion a Llundain. Mae Danielle hefyd wedi gweithio ar Coronation Street fel awdur stori. Enillodd ei hail nofel, When Our Worlds Collided (Simon & Schuster, 2022) Wobr Jhalak Children & YA 2023, Gwobr Lyfrau YA a Gwobrau Llyfrau Amrywiol 2023. Cyhoeddwyd ei thrydedd nofel i oedolion ifanc, If My Words Had Wings (Simon & Schuster) ym mis Mai 2024.
Ysgrifennu Ffuglen i Oedolion Ifanc: O syniad cychwynnol i ddrafft gorffenedig
O egin syniad i’r drafft cyntaf, mae’r cwrs yma wedi’i gynllunio i’ch helpu chi gyda’r broses gyfan o ysgrifennu ffuglen gyffrous a gwreiddiol i oedolion ifanc. Byddwch yn trafod y sylfeini angenrheidiol sydd ei angen i siapio’r syniadau cychwynnol hynny yn straeon na fydd y darllenwyr ifanc yn gallu eu hanwybyddu. Gyda chefnogaeth dau diwtor profiadol ac awduron o fri, Danielle Jawando ac Emma Smith-Barton, bydd y gweithdai yn archwilio cymeriad, llais, lleoliad, deialog, plot a sut i fynd i’r afael â phynciau sy’n ergydio’n galed a sensitif. Byddwch hefyd yn cael eich arwain trwy’r broses o gyflwyno eich nofel at asiantau ynghyd ag awgrymiadau ar sut i adeiladu gyrfa o fewn y byd cyhoeddi. Bydd tiwtorialau un-i-un hefyd yn cael eu cynnig yn ystod yr wythnos lle byddwch yn derbyn adborth ar eich gwaith a chyngor ar gyfeiriad eich gyrfa. Yn addas ar gyfer awduron o bob allu a phrofiad; byddwch yn gadael gan deimlo llawn ysbrydoliaeth, cymhelliant a gyda dealltwriaeth ddyfnach o sut i ysgrifennu ffuglen ystyrlon a chofiadwy i oedolion ifanc.
Tiwtoriaid
Danielle Jawando
Emma Smith-Barton
Awdur, athrawes a hwylusydd creadigol o dde Cymru yw Emma Smith-Barton. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf i bobl ifanc, The Million Pieces of Neena Gill (2019) gan Penguin Random House a chyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Llyfr Plant Waterstones, Gwobr Branford Boase a Gwobr Nofel Rhamantaidd Gyntaf Cymdeithas y Nofelwyr Rhamantaidd 2020. Mae ganddi BA mewn Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Warwick ac MA Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Bath Spa. Roedd hi’n feirniad ar gyfer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2023 ac yn un o ddeg awdur a ddewiswyd ar gyfer rhaglen Writers at Work Gŵyl y Gelli 2023. Mae ei chyhoeddiadau diweddaraf yn cynnwys cerdd yn y flodeugerdd And I Hear Dragons (Firefly Press, 2024 ) a stori fer i’w darlledu ar BBC Radio 4.
Darllenydd Gwadd
Simon James Green (Digidol)
Mae Simon James Green yn awdur llyfrau i blant ac oedolion ifanc ac wedi ennill sawl gwobr am ei waith. Mae wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Lyfrau YA, y Diverse Book Awards, y Lollies, a chael ei enwebu deirgwaith ar gyfer medal Carnegie. Mae ei nofelau i oedolion ifanc yn cynnwys Noah Can’t Even (Scholastic, 2017), Alex in Wonderland (Scholastic, 2019), Heartbreak Boys; You’re the one that I want (Scholastic, 2020), Gay Club! (Scholastic, 2022) a Boy Like Me (Scholastic, 2023) ar restr hir YOTO Carnegie. Cyrhaeddodd ei nofel ar gyfer oedran canol gyntaf, Life of Riley: Beginner's Luck (Scholastic, 2020) restr fer Gwobr Llyfr Blue Peter ac enillodd Sleepover Takeover Wobr Book InspiRead 2023. Dewiswyd Finn Jones Was Here (Scholastic, 2023) fel Llyfr y Mis gan Gymdeithas y Llyfrwerthwyr ac roedd yn Shadowers' Choice yng Ngwobrau Llyfrau’r UKLA. Mae Simon hefyd wedi ysgrifennu dau lyfr lluniau, wedi’u darlunio gan Garry Parsons: Llama Glamarama (Scholastic, 2020) a Fabulous Frankie (Scholastic, 2021). www.simonjamesgreen.com