Y Grefft o ‘sgwennu Ffuglen Poblogaidd

Llu 23 Medi 2024 - Gwe 27 Medi 2024
Tiwtoriaid / Cesca Major & Ayisha Malik
Darllenydd Gwadd / Rachel Joyce (Digidol)
Ffi’r Cwrs / O £625 - £725 y pen
Genre / Ffuglen
Iaith / Saesneg

Mae cymeriadau’n ganolog i stori, gyda’u teithiau’n sail i blot ac awyrgylch naratif. Bydd ein cwrs wythnos yn eich tywys drwy’r elfen allweddol hon o adrodd straeon, wrth i chi ddysgu sut i lunio cymeriadau gyda dyfnder, cymhlethdod a chyferbyniadau.

Dewch i adnabod eich cast llawn yn llwyr, gyda’r awduron clodwiw a’r tiwtoriaid profiadol, Cesca Major ac Ayisha Malik, wrth i chi archwilio stori gefndirol, personoliaeth, a bwa cymeriadau. Dysgwch sut i ddeall a nodi’r cymhelliant tu ôl i weithredoedd cymeriadau, ac i ysgrifennu ffuglen sy’n synnu eich darllenwyr wrth eu trochi mewn byd cyfoethog a haenog. Byddwch hefyd yn cael gwell dealltwriaeth o bersbectif naratif, a strwythur naratif wrth i chi gynllunio teithiau eich cymeriadau.

Drwy weithdai a thrafodaethau grŵp, tiwtorialau un-i-un, ac ymarferion ac ysgogiadau gwreiddiol a chymhellol, bydd y tiwtoriaid yn eich cefnogi i ddysgu elfennau hanfodol cymeriadu. Nod y cwrs hwn yw sicrhau bod eich cymeriadau yn neidio o’r dudalen i aros gyda’ch darllenwyr ymhell ar ôl iddynt orffen eich stori.

Tiwtoriaid

Cesca Major

Mae Cesca Major yn nofelydd ac yn ysgrifennwr sgrin. Mae hi wedi ysgrifennu pedair nofel ar ddeg, dan enwau amrywiol, ac mae ei llyfrau wedi eu cyhoeddi mewn dros 12 gwlad wahanol. Mae hi wedi cael ei henwebu ar gyfer Gwobr Gomedi Rhamantaidd yr RNA, Coron Aur HWA a Gwobr Gold Dagger CWA. Ar hyn o bryd mae ganddi gynhyrchiadau teledu a ffilmiau yn cael eu datblygu gyda chwmnïau gan gynnwys Hello Sunshine, Apple, Monumental Television, 42, Roughcut, Sky Studios a'r BBC. Mae Cesca wedi cyflwyno sioeau ar gyfer ITV West a Sky Channels yn y gorffennol. Mae hi'n mwynhau cynnal neu siarad ar baneli ac yn ffilmio vlogs am y broses ysgrifennu. Mae hi’n rhedeg encilion ysgrifennu, yn fentor i’r Black Girl Writers ac wedi dysgu cyrsiau ysgrifennu creadigol i Jericho Writers ac Ysgol Gelf Henley. Mae Cesca yn byw yn Berkshire gyda'i gŵr, ei mab a'i gefeilliaid.

Ayisha Malik

Ayisha Malik yw awdur y nofelau clodwiw Sofia Khan is Not Obliged, The Other Half of Happiness, This Green and Pleasant Land a The Movement. Cafodd ei dewis ar gyfer Fresh Talent Pick gan WHSmith ac roedd Sofia Khan yn un o ddewisiadau London CityReads. Mae hi wedi cyfrannu at weithiau sy’n cynnwys A Change is Gonna Come, a hefyd Conversations in Love, a gyrhaeddodd restr goreuon gwerthiant y Sunday Times. Mae hi wedi ysgrifennu ail-gread o Mansfield Park gan Jane Austen, a hefyd y llyfr i blant Seven Sisters. Mae Ayisha wedi ennill Gwobrau Llyfrau Amrywiaeth ac wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Menywod Asiaidd Llwyddiannus, Gwobrau Siapwyr y Dyfodol Marie Claire, Gwobrau Cyhoeddi ac Ysgrifennu h100, ac mae’n dderbynnydd Ysgoloriaeth Teithio Cymdeithas yr Awduron. Mae Sofia Khan is not Obliged a The Movement wedi eu hopsiynu ar gyfer y teledu. Mae Ayisha yn rhan o dîm yr Academi Ysgrifennu Proffesiynol ac yn addysgu cyrsiau ar gyfer Academi Faber a Curtis Brown Creative.  

Darllenydd Gwadd

Rachel Joyce (Digidol)

Rachel Joyce yw awdur y llyfrau rhyngwladol boblogaidd sydd wedi cyrraedd rhestr goreuon gwerthiant y Sunday Times, The Unlikely Pilgrimage of Harold Fry a The Love Song of Miss Queenie Hennessy. Mae Maureen Fry and the Angel of the North yn cwblhau’r drioleg hon. Hi hefyd yw awdur y llyfrau poblogaidd Perfect, The Music Shop, Miss Benson’s Beetle a chasgliad o straeon byrion cydgysylltiedig, A Snow Garden and Other Stories. Mae ei llyfrau wedi gwerthu dros bum miliwn o gopïau ledled y byd, ac wedi’u cyfieithu i 36 o ieithoedd. Cyrhaeddodd The Unlikely Pilgrimage of Harold Fry restr fer Gwobr Llyfr y Gymanwlad a rhestr hir Gwobr Man Booker. Mae hi bellach yn ffilm nodedig. Enillodd Rachel Wobr Awdur Newydd y Flwyddyn Specsavers yn 2012 a chyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Awdur y Flwyddyn y DU yn 2014. 

 

 

 

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811