Ysgrifennu Ffuglen Trosedd

Llu 7 Hydref 2024 - Gwe 11 Hydref 2024
Tiwtoriaid / Clare Mackintosh & C.L. Taylor
Darllenydd Gwadd / Abir Mukherjee (Digidol)
Ffi’r Cwrs / O £625 y pen
Genre / Ysgrifennu Trosedd
Iaith / Saesneg

Mae ffuglen droseddol yn parhau i fod yn genre anghredadwy o boblogaidd sydd yn parhau i fod yn flaenllaw ar restrau gwerthwyr gorau, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Gyda chymaint o amrywiaeth o is-genres ar gael, mae pob egin awdur trosedd yn sicr o ddod o hyd i’w gofod a’u llais eu hunain. P’un a ydych chi eisiau ysgrifennu ffilmiau llawn cyffro, dirgelion clyd neu droseddau llawn cymlethdodau, bydd y cwrs wythnos hwn yn dysgu’r hanfodion y bydd eu hangen arnoch i godi eich gwaith i’r lefel nesaf. Byddwch yn archwilio strwythur naratif, cymeriad a lleoliad, ac yn dysgu sut i ychwanegu dilysrwydd at eich gwaith. Yn ystod yr wythnos, fe’ch anogir i holi’r drwgdybus yn dwll, i ddadansoddi’ch plot yn fanwl, ac ymchwilio i leoliad eich trosedd am gliwiau. P’un a oes gennych waith ar y gweill neu ddim ond sgerbwd o syniad, bydd y tiwtoriaid arobryn a phrofiadol Clare Mackintosh a C.L. Taylor wrth law i’ch helpu i gynyddu’r dirgelwch, y gwreiddioldeb a’r tensiwn yn eich ysgrifennu ac ehangu eich gwybodaeth am ffuglen trosedd cyfoes. Byddwch yn gadael y cwrs yn teimlo’n llawn cymhelliant, wedi’ch herio, ac yn barod i greu campweithiau newydd.

Tiwtoriaid

Clare Mackintosh

Mae Clare Mackintosh wedi gwerthu dros 2 filiwn o gopïau o’i llyfrau ledled y byd, wedi cyrraedd brig y rhestrau gwerthu ac wedi ennill sawl gwobr, a hi yw awdur I Let You Go (Little Brown, 2015), a gyrhaeddodd restr goreuon gwerthiant y Sunday Times a’r New York Times, a’r llyfr gan awdur trosedd newydd a werthodd gyflymaf yn 2015. Fe enillodd Nofel Trosedd y Flwyddyn Theakston Old Peculier yn 2016 hefyd. Cyrhaeddodd ail a thrydedd nofel Clare, I See You (Little Brown, 2017) a Let Me Lie (Little Brown, 2018), frig rhestrau gwerthiant y Sunday Times. Cafodd ei thair nofel gyffro gyntaf eu dewis ar gyfer Clwb Llyfrau Richard & Judy, a gyda’i gilydd maen nhw wedi’u cyfieithu i dros ddeugain o ieithoedd. Cafodd After the End (Little Brown, 2019) ei chyhoeddi yn 2019 a chyrhaeddodd restr goreuon gwerthiant y Sunday Times ar unwaith, ac yn 2021 saethodd Hostage (Little Brown, 2021) i’r deg uchaf. Mae ei chyfres drosedd newydd, sy’n cynnwys y ditectif o Gymru DC Ffion Morgan, wedi derbyn canmoliaeth feirniadol, gyda The Last Party (Little Brown, 2023) ac A Game of Lies (Little Brown, 2023) yn cyrraedd rhestr deg uchaf y Sunday Times. Gyda’i gilydd, mae ei llyfrau wedi treulio dros 65 o wythnosau yn rhestrau goreuon gwerthiant y Sunday Times. Mae Clare yn byw yn y gogledd gyda’i theulu. 

C.L. Taylor

Mae C.L. Taylor yn awdur llyfrau cyffro seicolegol arobryn ac yn un o werthwyr gorau y Sunday Times. Hi yw awdur The Guilty Couple (Harper Collins, 2022), a Sleep (Harper Collins, 2019), ill dau wedi eu dewis ar gyfer Clwb Llyfrau Richard. Mae llyfrau C.L. Taylor wedi gwerthu dros ddwy filiwn o gopïau yn y DU yn unig, wedi cyrraedd rhif un ar Amazon Kindle, Audible, Kobo, iBooks a Google Play, ac wedi’u cyfieithu i 25 o ieithoedd a’u dewis ar gyfer y teledu. Mae hi hefyd wedi ysgrifennu dwy nofel i oedolion ifanc: The Treatment (Harper Collins, 2016) a The Island (Harper Collins, 2021). 

Darllenydd Gwadd

Abir Mukherjee (Digidol)

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811