Un o Fôn yw Mared Lewis, ac mae’n awdur ar saith o nofelau i oedolion, dau lyfr plant a thair nofel i Ddysgwyr Uwch. Mae hi hefyd wedi dechrau ar gasgliad o straeon byrion. Mae’n rhannu ei hamser rhwng gwaith sgwennu a thiwtora Cymraeg i Oedolion dan adain Prifysgol Bangor, ac mae ganddi brofiad hefyd o sgwennu i’r teledu a radio.
Creu Byd: Ysgrifennu Ffuglen
11.00 am – 4.00 pm
Ymunwch â ni ar gyfer diwrnod o ddysgu sut i ysgrifennu ffuglen o bob math. Boed eich bryd ar ‘sgwennu stori fer, monolog neu ddechrau ar nofel, byddwn yn edrych ar hanfodion creu byd yn y cwrs undydd yma. Edrychwn ar bwysigrwydd lleoliad a naws, a thechnegau creu cymeriad. Bydd ymarferion ysgrifennu yn ystod y dydd, a chyfle i rannu o fewn y grŵp neu ar lefel un-i-un os dymunir.
Cwrs cyfeillgar anffurfiol fydd hwn, gyda chroeso i bawb sydd ar dân i ddechrau neu ail afael mewn prosiect rhyddiaith o unrhyw fath.
Dyma gwrs addas i awduron newydd sbon, ac i awduron mwy profiadol fel ei gilydd.
Bydd cyngor parod gan Llenyddiaeth Cymru ar ôl y cwrs i’r rhai ohonoch fydd yn awyddus i edrych ar y llwybrau tuag at gyhoeddi.
Mae ein cyrsiau undydd yn addas i unigolion sydd heb brofiad o gwbl yn y byd ysgrifennu creadigol, ac i’r rheiny sydd eisoes â pheth profiad. Mewn awyrgylch groesawgar, gynnes, bydd cyfle i chi ddysgu gan diwtoriaid sydd yn arbenigwyr yn eu maes. Mae croeso i’r chwilfrydig, ac i’r rheiny sydd yn edrych am ddiwrnod o hwyl ac am gael dysgu rhywbeth newydd. Os am drafod os yw’r cwrs hwn, neu unrhyw un o gyrsiau rhaglen 2023 yn addas i chi, cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol. |
Bydd te, coffi a melysion ar gael drwy’r dydd, a gweinir cinio ysgafn i bawb fel rhan o bris y cwrs. Os yn teithio o bell, neu awydd aros dros nos, holwch ni am bris llety neu cymrwch gip ar ein Bwthyn Encil Awduron, Nant.
Tiwtor
