Ysgrifennu Nofel

Sad 7 Hydref 2023
Tiwtor / Llŷr Titus
Ffi’r Cwrs / O £35 y pen
Genre / Ffuglen
Iaith / Cymraeg

11.00 am – 4.00 pm

Ymunwch â ni ar gyfer diwrnod o ddysgu sut i fynd ati i ysgrifennu nofel. Mae gan nifer ohonom ni syniad am nofel, ond sut mae cael hwnnw i lawr ar bapur? Sut mae meithrin yr egin a’i helpu o i ddatblygu? Dros ddiwrnod o weithdy ymarferol bydd Llŷr Titus yn trafod gwahanol dechnegau i fwrw iddi i droi syniad yn nofel. Hefo syniad? Wedi dechrau arni ond yn sownd? Dyma gwrs fydd o fudd i chi gyda lwc!

Dyma gwrs addas i awduron newydd sbon, ac i awduron mwy profiadol fel ei gilydd.

Bydd cyngor parod gan Llenyddiaeth Cymru ar ôl y cwrs i’r rhai ohonoch fydd yn awyddus i edrych ar y llwybrau tuag at gyhoeddi.

 

Mae ein cyrsiau undydd yn addas i unigolion sydd heb brofiad o gwbl yn y byd ysgrifennu creadigol, ac i’r rheiny sydd eisoes â pheth profiad. Mewn awyrgylch groesawgar, gynnes, bydd cyfle i chi ddysgu gan diwtoriaid sydd yn arbenigwyr yn eu maes. Mae croeso i’r chwilfrydig, ac i’r rheiny sydd yn edrych am ddiwrnod o hwyl ac am gael dysgu rhywbeth newydd. Os am drafod os yw’r cwrs hwn, neu unrhyw un o gyrsiau rhaglen 2023 yn addas i chi, cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol.

 

Bydd te, coffi a melysion ar gael drwy’r dydd, a gweinir cinio ysgafn i bawb fel rhan o bris y cwrs. Os yn teithio o bell, neu awydd aros dros nos, holwch ni am bris llety neu cymrwch gip ar ein Bwthyn Encil Awduron, Nant.

Tiwtor

Llŷr Titus

Mae Llŷr Titus yn ddramodydd, llenor ac yn un o olygwyr cylchgrawn Y Stamp. Teithiodd ei ddrama Drych o gwmpas Cymru yn 2015 a derbyniodd Wobr Theatr Cymru am Ddramodydd Gorau’r Iaith Gymraeg amdani. Ers hynny mae wedi sefydlu cwmni theatr cymunedol Y Tebot gyda chriw o ffrindiau. Eleni teithiodd rifíw cyntaf y cwmni, Costa Byw, mewn cydweithrediad â Chwmni Theatr Bara Caws. Mae gan Llŷr brofiad o ysgrifennu ar gyfer teledu a radio hefyd ac mae’n un o sgriptiwyr cyfres Deian a Loli. Enillodd ei nofel Gwalia (Gwasg Gomer, 2016) Wobr Tir Na-Nog iddo yn 2016.

 

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811