Yn enedigol o Lundain ac wedi’i fagu yn Ffynnon Taf, mae Malachy Edwards bellach yn byw ar Ynys Môn. Cyhoeddwyd cofiant ffeithiol-greadigol cyntaf yr awdur, Y Delyn Aur, gan Wasg y Bwthyn ym mis Tachwedd 2023, a chyrhaeddodd y llyfr Restr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2024. Yn y llyfr hwn, mae Malachy yn archwilio ei hunaniaeth hil-gymysg, aml-ddiwylliannol a chrefyddol wrth olrhain hanes ei deulu yn Iwerddon a Barbados. Cyhoeddwyd y dilyniant yn y gyfres gofiannol ffeithiol-greadigol, Paradwys Goll, ym mis Hydref 2025. Yn ogystal ag ysgrifennu llyfrau, mae’r awdur hefyd yn golofnydd i’r cylchgrawn Golwg.
Ysgrifennu o brofiad: Canfod y naratif mewn atgofion
6.00 – 7.30 pm
Hunangofiant yw un o’r ffurfiau o ysgrifennu ffeithiol greadigol mwyaf poblogaidd, teimladwy ac amrywiol. Dyma hefyd heb os, y ffurf fwyaf personol i’w archwilio. Ymunwch â’r awdur a’r colofnydd Malachy Owain Edwards a fydd yn eich cefnogi, eich ysbrydoli, a’ch herio i fynd i’r afael â gwahanol elfennau’r genre. Bydd Malachy yn cynnig cyngor manwl, arweiniad ymarferol, ac awgrymiadau ar ddewis pwnc, strwythur ac arddull eich hunangofiant yn ogystal â chynnal trafodaethau ynglŷn ag ymchwil, moeseg, a dibynadwyaeth atgofion unigolyn a chymuned. Os oes gennych stori bersonol hoffech ei hadrodd, neu ddiddordeb mewn dysgu mwy am sut i ysgrifennu hunangofiant, dyma’r sesiwn i chi.
Yn dilyn y gweithdy, darperir adnoddau gyda’r gweithdy hwn i ymestyn eich astudiaeth, eich helpu gydag ysgrifennu pellach, a’ch cyfeirio at gyfleoedd cyhoeddi yn y ffurf hon.
Tiwtor