Ysgrifennu o brofiad: Canfod y naratif mewn atgofion

Mer 14 Chwefror 2024
Tiwtor / Malachy Owain Edwards
Ffi’r Cwrs / O £14 y pen
Genre / Ffeithiol
Iaith / Cymraeg

6.00 – 7.30 pm

Hunangofiant yw un o’r ffurfiau o ysgrifennu ffeithiol greadigol mwyaf poblogaidd, teimladwy ac amrywiol. Dyma hefyd heb os, y ffurf fwyaf personol i’w archwilio. Ymunwch â’r awdur a’r colofnydd Malachy Owain Edwards a fydd yn eich cefnogi, eich ysbrydoli, a’ch herio i fynd i’r afael â gwahanol elfennau’r genre. Bydd Malachy yn cynnig cyngor manwl, arweiniad ymarferol, ac awgrymiadau ar ddewis pwnc, strwythur ac arddull eich hunangofiant yn ogystal â chynnal trafodaethau ynglŷn ag ymchwil, moeseg, a dibynadwyaeth atgofion unigolyn a chymuned. Os oes gennych stori bersonol hoffech ei hadrodd, neu ddiddordeb mewn dysgu mwy am sut i ysgrifennu hunangofiant, dyma’r sesiwn i chi.

Yn dilyn y gweithdy, darperir adnoddau gyda’r gweithdy hwn i ymestyn eich astudiaeth, eich helpu gydag ysgrifennu pellach, a’ch cyfeirio at gyfleoedd cyhoeddi yn y ffurf hon.

Tiwtor

Malachy Owain Edwards

Mae Malachy Owain Edwards yn enedigol o Lundain ac wedi ei fagu yn Ffynnon Taf ac mae o bellach yn byw ar Ynys Môn. Cafodd cofiant ffeithiol creadigol yr awdur, Y Delyn Aur ei gyhoeddi gan Wasg y Bwthyn ym mis Tachwedd 2023. Ynddo mae Malachy yn wynebu ei hunaniaeth hil-gymysg, aml-ddiwylliedig a chrefyddol wrth olrhain hanes ei deulu yn Iwerddon a Barbados. Ar hyn o bryd, mae’n ymchwilio i’r dilyniant yn ei gyfres gofiannol ffeithiol creadigol, Paradwys Goll a gyhoeddir yn 2025. Yn ogystal ag ysgrifennu llyfrau, mae’r awdur yn golofnydd i’r cylchgrawn Golwg.

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811