Ysgrifennu’r Corff: Hudoliaeth, Natur, ac Ymgorfforiad (Barddoniaeth)

Llu 20 Gorffennaf 2026 - Gwe 24 Gorffennaf 2026
Tiwtoriaid / Zoë Brigley & Rupinder Kaur Waraich
Darllenydd Gwadd / Polly Atkin (Digidol)
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genre / Barddoniaeth
Iaith / Saesneg

Mae’r corff yn adrodd straeon. Mae’n cario llawenydd, trawma, cariad a goroesiad. Mae’n cofio llwybrau rydyn ni wedi’u cerdded, tirweddau rydyn ni wedi’u teithio, a’r chwedlau rydyn ni wedi’u hetifeddu.

Yn y cwrs wythnos yma, byddwn yn archwilio ysgrifennu’r corff yn ei holl gymhlethdod — drwy sbectol hudoliaeth, natur, iechyd meddwl, anabledd, niwtraliaeth a phositifrwydd corff, a phrofiad bywyd cyrff sydd, yn draddodiadol, wedi’u hymylu. Gyda’n gilydd, byddwn yn ystyried sut gall ysgrifennu adennill, dathlu, neu ail-ddychmygu’r corff — boed hynny’n golygu gwrthsefyll y naratifau sydd wedi’u gorfodi arno, dogfennu profiad bywyd o salwch neu anabledd, neu ddathlu harddwch cyrff sy’n bodoli y tu hwnt i ddelfrydau diwylliannol cul. Byddwn yn edrych ar lên gwerin, profiad synhwyraidd, a’r byd naturiol wrth dynnu ar waith beirdd y mae eu hysgrifennu’n taflu goleuni ar groestoriadau rhwng hil, rhywedd, rhywioldeb, anabledd, a mwy.

Bydd y gweithdai yn gynhyrchiol ac yn archwiliadol, gyda chyfleoedd i arbrofi gyda ffurf, sain a delweddau. Bydd prynhawniau’n gyfle i gael adborth un-i-un i’ch helpu i fireinio’ch cerddi ac i ddatblygu eich llais unigol. Mae hwn yn gwrs i feirdd ar unrhyw gam o’u gyrfa ysgrifennu, ond gyda chroeso arbennig i’r rhai sydd â diddordeb mewn gwaith beiddgar, tyner a gonest sy’n herio naratifau confensiynol am y corff.

Tiwtoriaid

Zoë Brigley

Cymraes Americanaidd yw Zoë Brigley, sy'n gweithio fel Darlithydd Cynorthwyol ym Mhrifysgol Talaith Ohio. Mae'n awdur llwyddiannus a enillodd Wobr Eric Gregory ar gyfer y beirdd gorau o dan 30 oed ym Mhrydain, ac fe gyrhaeddodd y rhestr hir yng Ngwobr Dylan Thomas. Zoë ydy golygydd Poetry Wales ac mae’n Olygydd Barddoniaeth Seren Books ar y cyd â Rhian Edwards. Mae ganddi dair cyfrol yn argymelliadau’r Poetry Book Society: The Secret (2007), Conquest (2012), a Hand & Skull (2019), i gyd wedi'u cyhoeddi gan Bloodaxe. Mae ei llyfrau barddoniaeth yn cynnwys Aubade After a French Movie (Broken Sleep, 2020) ac Into Eros (Verve Publishing, 2021), ac mae ei gwaith ffeithiol yn cynnwys Notes from a Swing State (Parthian Books, 2020) ac Otherworlds: Writing on Nature and Magic (Broken Sleep, 2021). Yn 2021, cyd-olygodd Zoë 100 Poems to Save the Earth (Seren) gyda Kristian Evans, ac mae hefyd yn olygydd cylchgrawn Modron, gan ysgrifennu am yr argyfwng ecolegol.

 

Rupinder Kaur Waraich

Mae Rupinder Kaur Waraich (hi/hi) yn artist amlddisgyblaethol sy'n byw yng ngorllewin canolbarth Lloegr. Mae ei gwaith yn cwmpasu barddoniaeth, ysgrifennu a pherfformio. Mae ei gwaith yn aml yn edrych ar y groesffordd ieithyddol rhwng y corff, hanes, rhywioldeb ac ysbrydolrwydd trwy naratif o bersbectif benywaidd. Cyhoeddwyd casgliad cyntaf Rupinder o farddoniaeth, Rooh (2018), gan Verve Poetry Press. Cyhoeddwyd ei hail gasgliad Tigress with Wings (Chwefror, 2026) gan Seren Books. Mae ei cherddi wedi ymddangos mewn sawl cyfnodolyn a chylchgrawn, gan gynnwys Wasafiri, 14 Poems, Poetry Wales, a mwy. Mae hi hefyd wedi cyfrannu traethawd, ar y bardd Punjabi Amrita Pritam, a gyhoeddwyd gan Routledge India yn eu cyfres Writer Provocateur. Fel BBC New Creative, cynhyrchodd The Girls That Hide and Seek, darn o farddoniaeth lafar sy'n mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod. Mae hi wedi derbyn DYCP (Develop Your Creative Practice) ddwywaith i gefnogi ei chwilfrydedd o fod yn artist. Mae ei gwaith diweddar yn cyfuno barddoniaeth, dawns a ffilm, fel y gwelir yn ei ffilmiau Finding Kali a The Search.

Darllenydd Gwadd

Polly Atkin (Digidol)

Mae Polly Atkin (FRSL) yn fardd ac yn awdur ffeithiol, y mae ei gwaith yn canolbwyntio ar natur, lle ac anabledd. Ei chasgliadau barddoniaeth yw Basic Nest Architecture (Seren: 2017), Much With Body (Seren: 2021) ac Emergency Dream (Seren: 2026). Roedd Recovering Dorothy: The Hidden Life of Dorothy Wordsworth (Saraband: 2021), y cofiant cyntaf o fywyd a salwch bywyd hwyrach Dorothy Wordsworth, ar restr hir Gwobr Barbellion 2022. Enwyd ei chofiant Some Of Us Just Fall: On Nature and Not Getting Better (Sceptre: 2023 a Unnamed: 2024) yn Llyfr y Flwyddyn Lakeland 2024 ac ar restr hir Gwobr Wainwright am Ysgrifennu Natur 2024. Roedd ei thrydydd llyfr ffeithiol The Company of Owls ((Elliott and Thompson: 2024 a Milkweed: 2026) ar restr hir Gwobr Wainwright am Ysgrifennu Natur 2025. Mae ei barddoniaeth a'i rhyddiaith yn ymddangos mewn amryw o flodeugerddi a rhifynnau academaidd. Fe’i magwyd yn Nottingham yna bu'n byw yn nwyrain Llundain am saith mlynedd cyn symud i Cumbria yng ngogledd-orllewin Lloegr. Mae ganddi ddoethuriaeth o Brifysgol Lancaster ac bu’n addysgu Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn QMUL, Prifysgol Lancaster, a Phrifysgolion Strathclyde a Cumbria. Mae hi'n gweithio fel gweithiwr llawrydd o'i chartref yn Ardal y Llynnoedd yn Lloegr, lle mae hi'n gyd-berchennog ar siop lyfrau hanesyddol Grasmere, Sam Read Bookseller.

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811