Awdur a darlledwr o Gymru ydy Horatio Clare. Mae ei gofiannau, ei lyfrau teithio a’i lyfrau plant llwyddiannus yn cynnwys Running for the Hills (John Murray, 2006), A Single Swallow (Chatto and Windus, 2009), Down to the Sea in Ships (Vintage, 2015), ac Aubrey and the Terrible Yoot (Firefly Press, 2015), a’r nofel “sy’n newid pethau” (The Telegraph) Heavy Light (Chatto and Windus, 2021). Mae wedi ennill Gwobr Somerset Maugham, Gwobr Branford Boase, a Gwobr Stanford Dolman. Ei lyfr Your Journey Your Way (Penguin, 2024) – sef canllaw adferiad iechyd meddwl – oedd llyfr hunan-gymorth y flwyddyn y Sunday Times. Mae Horatio yn cyflwyno ‘Is Psychiatry Working?’ ar BBC Radio 4 ac yn ysgrifennu’n rheolaidd i’r wasg ryngwladol. Mae ei lyfr newydd, We Came By Sea: Stories of a greater Britain (Little Toller, 2025) yn adrodd hanes nad oes fawr ddim sôn-amdano sef argyfwng y cychod bach. Mae Horatio yn darparu hyfforddiant i dimau ymyrraeth yn y gwasanaeth iechyd gwladol, yn darlithio mewn ysgrifennu ffeithiol ym Mhrifysgol Manceinion, ac yn golygu'r papur newydd baby-wolf.com.
Ysgrifennu’r Hunan
Ymunwch â Horatio ac Amy am gwrs eang ei gwmpas ar grefft ysgrifennu am densiwn. Bydd y technegau a astudir yn ystod yr wythnos yn berthnasol i newyddiaduraeth, cofiannau, bywgraffiadau, ysgrifennu teithio ac ysgrifennu am natur. Bydd yr wythnos yn cynnwys gweithdai ar wahanol elfennau, o gofnodi profiad hyd at ymchwil, o gymeriadau byw i strwythurau sy’n canu, o faterion cyfraith a moeseg i sut i greu rhyddiaith hardd. Bydd digon o amser ar gyfer trafod ac arbrofi wrth i ni edrych ar y grefft a’r busnes o gynllunio, ysgrifennu a golygu rhyddiaith hir a rhyddiaith fer, ysgrifau a llyfrau. Bydd tiwtorialau un-i-un yn rhoi cyfle i ofyn cwestiynau penodol ac i gynnig adborth penodol ar eich gwaith.
Tiwtoriaid
Horatio Clare
Amy Liptrot
Magwyd Amy Liptrot ar fferm ddefaid ar Ynysoedd Erch yn yr Alban ac mae wedi ysgrifennu dau gofiant sydd wedi bod ar restrau’r gwerthwyr gorau: The Outrun (Canongate, 2016) a The Instant (Canongate, 2022). Enillodd The Outrun Wobr Wainwright am ysgrifennu am natur a Gwobr PEN Ackerley am gofiant, mae wedi'i gyfieithu i bymtheg iaith ac wedi'i addasu'n ffilm yn serennu Saoirse Ronan. Mae’n byw yn Swydd Efrog ac mae wrthi’n gweithio ar lyfr am wymon.
Darllenydd Gwadd
Gosia Buzzanca (Digidol)
Ganed Gosia Buzzanca yn Poznań yng Ngwlad Pwyl. Dechreuodd gyhoeddi straeon byrion yn 2002, cyn symud i wledydd Prydain yn 2008 ac ennill MA mewn Ysgrifennu Creadigol gyda rhagoriaeth. Yn 2022, hi oedd derbynnydd Gwobr Awduron Dosbarth Gweithiol W&A, ac yn 2025 cafodd ei dewis ar gyfer rhaglen Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli. Mae ei chyhoeddiad cyntaf, sef y cofiant There She Goes, My Beautiful World (Calon, 2025), ar gael yn awr. Mae Gosia yn byw yn y Barri, ac ar hyn o bryd mae'n gweithio ar ei nofel gyntaf.