Telerau ac Amodau Ysgoloriaeth Tŷ Newydd

  • Mae’r Gronfa Ysgoloriaeth yn gronfa gystadleuol, a ddyfernir i ymgeiswyr llwyddiannus yn dilyn proses ymgeisio. Sylwch na allwn warantu cymorth ariannol oherwydd y nifer fawr o geisiadau.
  • Mae swm yr ysgoloriaeth yn amrywio rhwng £100 – £200 yn ddibynnol ar hyd y cwrs. Mae dyddiad cau pob ysgoloriaeth wedi eu gosod 2 fis cyn dyddiad cychwyn y cwrs, gyda phenderfyniadau yn cael eu gwneud gan banel o staff Llenyddiaeth Cymru o fewn y 7 diwrnod gwaith yn dilyn hynny. Mae manylion, gan gynnwys y dyddiad cau a’r swm sydd ar gael, ar gael ar dudalen unigol pob cwrs, sydd ar gael yma: tynewydd.cymru/cyrsiau-ac-encilion/
  • Mae Cronfa Ysgoloriaeth Tŷ Newydd ar gael i awduron na allant fel arall fforddio’r ffi cwrs llawn. Ni fydd y broses ymgeisio yn asesu ansawdd ysgrifennu creadigol, ond bydd yn canolbwyntio ar angen yr ymgeisydd am gymorth ariannol, a bwriad amlwg yr ymgeisydd i fynychu’r cwrs i ddatblygu eu crefft ysgrifennu a’u gyrfa. Bydd y panel asesu yn cynnwys aelodau profiadol o staff Llenyddiaeth Cymru. Mae’r panel asesu yn cadw’r hawl i ystyried blaenoriaethau strategol Llenyddiaeth Cymru wrth ddewis ymgeiswyr llwyddiannus, er enghraifft canolbwyntio ar ddewis awduron amrywiol a chynrychioliadol o ran daearyddiaeth, profiad ysgrifennu, ieithoedd, ac unrhyw brofiad byw a nodir yn y cais a fydd yn cyflwyno profiad neu bersbectif newydd i ysgrifennu Cymreig.
  • Dim ond i awduron sy’n byw yng Nghymru y mae Cronfa Ysgoloriaeth Tŷ Newydd ar gael.
  • Rhaid i’r sawl sy’n derbyn yr ysgoloriaeth drefnu a thalu am deithio i Dŷ Newydd ac oddi yno.
  • Dim ond un ysgoloriaeth y pen y mae Llenyddiaeth Cymru yn ei gynnig fesul cwrs yn Nhŷ Newydd, ac ni allwn ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr llwyddiannus am unrhyw gyrsiau ychwanegol yn yr un flwyddyn. Gall ymgeiswyr wneud cais am fwrsariaethau ychwanegol mewn gwahanol flynyddoedd, ond bydd ymgeiswyr newydd yn cael eu blaenoriaethu.
  • Bydd un lle yn cael ei gadw ar bob cwrs yn 2024 gan ragweld derbynnydd bwrsariaeth. Os na cheir unrhyw geisiadau am fwrsariaeth ar gyfer cwrs penodol ar y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, caiff y lle hwnnw ei ryddhau. (Nodwch, os gwelwch yn dda, fod ein cwrs Barddoniaeth a Pherfformio ym mis Mehefin 2024 eisoes wedi’i archebu’n llawn cyn cyhoeddi’r gronfa ysgoloriaeth hon, felly nid oes unrhyw leoedd ysgoloriaeth ar gael ar gyfer y cwrs hwn.)
  • Ar ôl derbyn cadarnhad bod eu cais am ysgoloriaeth wedi bod yn llwyddiannus, rhaid i dderbynnydd yr ysgoloriaeth gadarnhau eu harchebiad trwy dalu blaendal. Mae angen blaendal o £100 i sicrhau eu harcheb gyda 7 diwrnod gwaith o’u cynnig bwrsariaeth. Wedi hynny, gall y derbynnydd wneud cais i dalu’r gweddill mewn rhandaliadau neu dalu’r gweddill yn llawn 6 wythnos cyn dyddiad cychwyn y cwrs.
  • Os na chadarnheir y dyfarniad ysgoloriaeth trwy dalu blaendal o fewn 7 diwrnod o’r hysbysiad, bydd yr ysgoloriaeth yn cael ei thynnu’n ôl, a’r archeb dros dro yn cael ei chanslo.
  • Mae’n amod o’r dyfarniad bod yn rhaid i dderbynwyr ysgoloriaethau gyflwyno adroddiad ysgrifenedig byr trwy e-bost o fewn pythefnos i ddiwedd eu cwrs, yn disgrifio eu profiad a’r effaith a gaiff ar eu hysgrifennu. Bydd templed yn cael ei ddarparu.
  • Mae ymgeiswyr llwyddiannus yn cytuno i gael eu henwi gan Llenyddiaeth Cymru fel derbynwyr ysgoloriaethau, ar ein gwefan, sianeli cyfryngau cymdeithasol, ac mewn adroddiadau perthnasol.
  • Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod am ganlyniad eu cais, boed yn llwyddiannus neu’n aflwyddiannus, o fewn 7 diwrnod gwaith i ddyddiad cau’r cais.
  • Mae Llenyddiaeth Cymru yn cadw’r hawl i ddyfarnu swm is i ymgeiswyr nag y gwnaethant gais, i beidio â dyfarnu ysgoloriaeth o gwbl, neu i dynnu’r gronfa ysgoloriaeth yn gyfan gwbl neu’n rhannol ar unrhyw adeg.
  • Pe bai angen i dderbynnydd ysgoloriaeth drosglwyddo i gwrs gwahanol ar ôl archebu, rhaid cwblhau cais newydd, yn unol â Thelerau ac Amodau Archebu Tŷ Newydd.
  • Os bydd angen i dderbynnydd ysgoloriaeth ganslo archeb, bydd y dyfarniad ysgoloriaeth yn cael ei dynnu’n ôl ond gellir gwneud cais newydd yn y dyfodol.
  • Mae ein penderfyniadau ar ddyfarniadau ysgoloriaeth yn derfynol ac ni fyddwn yn gohebu nac yn trafod penderfyniad y panel asesu.
  • Rydym yn cadw’r hawl i flaenoriaethu’r rhai nad ydynt wedi derbyn unrhyw gyllid arall (gan gynnwys ysgoloriaethau, grantiau neu ffioedd) gan Llenyddiaeth Cymru yn y 12 mis diwethaf.
  • Ni ellir cyfnewid Ysgoloriaethau Tŷ Newydd yn gyfan gwbl nac yn rhannol am unrhyw arian parod cyfatebol, na’i drosglwyddo i berson arall.
  • Mae Llenyddiaeth Cymru yn cadw’r hawl i dynnu unrhyw gynnig o ysgoloriaeth yn ôl os na fodlonir amodau’r dyfarniad.