Tystlythyrau
“Rhywbeth a fuodd o fudd mawr i mi ar fy nhaith fel sgwennwr oedd mynychu cyrsiau yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd a mi faswn i’n eich annog chithau i wneud yr un peth.”
Awdur a newyddiadurwr Rhian Cadwaladr (erthygl Golwg, Mawrth 2025)
“Roedd cael mynd ar gyrsiau ysgrifennu i Dŷ Newydd fel rhan o’r wobr am lwyddo yng nghystadlaethau’r Urdd yn amhrisiadwy am sawl rheswm. Bu’n gymorth mawr wrth i mi ddysgu a mireinio fy nghrefft fel bardd, yn gyfle gwych i dreulio amser gyda’r mawrion llenyddol oedd yn rhannu eu hamser a’u perlau o wybodaeth ar y cyrsiau, ac roedd hefyd yn arbennig cael dod i nabod cymuned o awduron ifanc – rhai ohonyn nhw yn ffrindiau agos i mi hyd heddiw. Roedd cael gwneud hyn oll yn lleoliad hudolus Tŷ Newydd yn goron ar y cyfan.”
Bardd ac awdur Aneurin Karadog