Cefnogwch Ni

Fel elusen gofrestredig mae Llenyddiaeth Cymru yn dibynnu ar roddion i wireddu ein gweledigaeth. Bydd eich haelioni yn ein helpu i ysbrydoli pobl ifanc, cyrraedd cynulleidfa newydd, a meithrin y genhedlaeth nesaf o awduron Cymraeg.

 

Cyfrannu

Bydd eich cyfraniad yn ein caniatáu ni i…
Fynd ag awduron i ysgolion a chynnal gweithdai a phrosiectau ar gyfer pobl ifanc fydd yn ysbrydoli cariad at lenyddiaeth fel darllenwyr, awduron a chynulleidfaoedd.

Tri llun gwahanol. Ar y dde mae llun o fachgen ifanc yn eistedd ar soffa yn ysgrifennu mewn pad nodiadau. Mae'r llun canol yn dangos pedwar disgybl ysgol gynradd yn trafod syniadau o gwmpas bwrdd. Mae'r trydydd llun yn dangos merch ifanc yn sefyll ynghanol natur ac yn ysgrifennu mewn pad nodiadau.

Cefnogi rhai o’r unigolion sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau trwy ein prosiectau llesiant.

Tri llun. Mae'r llun ar y chwith yn dangos dwy ferch yn eistedd yng ngardd Ty Newydd, mae nhw'n gwenu ac mae pad nodiadau ar y llawr wrth eu hyml. Mae'r ail lun yn dangos llun agos o ddail coch gyda cwpled o farddoniaeth arno. Mae'r trydydd llun yn dangos dynes yn ysgrifennu mewn llyfr nodiadau mawr.

Cynnig bwrsariaethau i sicrhau’r mynediad ehangaf posibl i’n rhaglenni datblygu a mentora awduron yn Nhŷ Newydd.

Tri llun gwahanol. Mae'r llun ar y chwith yn dangos dau berson yn cael sgwrs o gwmpas bwrdd. Mae'r ail lun yn dangos llaw yn gafael mewn beiro ac yn ysgrifennu mewn llyfr nodiadau. Mae'r trydydd llun yn dangos dwy ddynes yn eistedd o gwmpas bwrdd yn edrych i lawr ar eu llyfr nodiadau tra'n ysgrifennu.

Cadw Tŷ Newydd, adeilad rhestredig Gradd II* ac ein Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol o’r bymthegfed ganrif, lle sy’n llawn hanes a chartref olaf y cyn Brif Weinidog David Lloyd George.

Tri llun gwahanol. Mae'r llun ar y chwith yn dangos giatiau a blaen adeilad Canolfan Ty Newydd. Yr ail lun yw llun agos o handlen drws mynediad Ty Newydd. Y trydydd llun yw llun o gefn adeilad a gardd Ty Newydd.

Darganfod rhagor o wybodaeth am ein prosiectau.
 
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech archwilio cyfleoedd eraill i gefnogi Llenyddiaeth Cymru, mae croeso i chi gysylltu â ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Catrin Slater, Uwch Swyddog Codi Arian, catrin.slater@llenyddiaethcymru.org / 029 2047 2266.