Ysgolion a Phrifysgolion

Mae Tŷ Newydd yn trefnu cyrsiau ysgrifennu creadigol preswyl ac undydd i ysgolion cynradd, uwchradd, prifysgolion a sefydliadau addysg uwch eraill. Mae pob cwrs yn unigryw.

Rydym yn gweithio gyda’r athrawon i drefnu cyrsiau wedi eu teilwra yn arbennig,  gan gynnig dewis o genre, cynnwys a thiwtoriaid addas ar gyfer y grŵp.

Mae Tŷ Newydd yn cynnig awyrgylch ysbrydoledig, yr amser, gofod a hunan-hyder i’r bobl ifainc archwilio eu potensial fel awduron. Byddant yn derbyn cyngor a mentora gan awduron proffesiynol ac yn mwynhau cyfleoedd i deimlo, ymateb a rhannu drwy ysgrifennu.

Bydd yna sesiynau grŵp, sesiynau un-i-un gyda’r tiwtoriaid, darlleniadau, a chyfle i’r disgyblion a’r myfywyr weithio’n unigol ar eu hysgrifennu.

Mae pawb yn byw gyda’i gilydd yn Nhŷ Newydd ar gyrsiau preswyl, ac mae’r awyrgylch yn hamddenol ac yn anffurfiol. Mae’r disgyblion a’r myfyrwyr yn helpu eu hunain i frecwast a chinio ac yn helpu, fel rhan o dîm, i baratoi un pryd fin nos i weddill y grŵp. Gallwn gysgu hyd at 20 o ddisgyblion neu fyfyrwyr.

Am fwy o wybodaeth, ac i drefnu cwrs i’ch ysgol neu’ch prifysgol chi, cysylltwch â ni: tynewydd@llenyddiaethcymru.org / 01766 522811.

Ein Cyrsiau

Cwrs undydd: Ffeithiol greadigol – Hunan-archwilio a hel atgofion
Sad 20 Mehefin 2026
Tiwtor / Malachy Edwards
Gweld Manylion
Adrodd Straeon: Crefft y Cyfarwydd (Cwrs Canolradd)
Llu 22 Mehefin 2026 - Gwe 26 Mehefin 2026
Tiwtoriaid / Daniel Morden, Phil Okwedy
Darllenydd Gwadd / Jan Blake
Gweld Manylion
Ysgrifennu ffuglen: Tanio’r dychymyg
Gwe 26 Mehefin 2026 - Sul 28 Mehefin 2026
Tiwtor / Manon Steffan Ros
Darllenydd Gwadd / Darllenydd Gwadd
Gweld Manylion