Prosiect X
Iau 20 Rhagfyr 2018 / , / Ysgrifennwyd gan Gwen Lasarus James

‘Beth wnawn ni alw’r cynllun?’ gofynnais wrth i mi gyfarfod hanner dwsin o bobl o gwmpas bwrdd bwyd yn Abbey Road ym Mangor am y tro cyntaf. ‘Project X’ meddai un fel bwled. Welais i mo’r person hwnnw wedyn, ond gwnaeth gyfraniad reit o’r cychwyn.

meddai Mari Emlyn yn ei chyflwyniad i lyfryn o waith gan griw Prosiect X. Cleientiaid a chyflyrau iechyd meddwl o Ganolfan Lôn Abaty, Bangor yw criw Prosiect X a bu’r criw yn cyfarfod yn wythnosol mewn gwahanol fannau diddorol o gwmpas Fangor dros gyfnod o chwe wythnos.

Aeth Mari a finnau a’r criw i ymweld a Gerddi Botaneg Treborth, Prifysgol Bangor a chael ein tywys o gwmpas y tŷ cynnes gan Dr Shaun Russell. Cawsom gip ar y tegeirianau a’r cacti o bob math a dyfai yno. O dan arweiniad craff Mari aethpwyd ati i ysgrifennu cerdd gyda termau Lladin ar blanhigion. Profodd yn gerdd ddoniol iawn. Bu rai aelodau o’r grŵp yn ddigon dewr i ddarllen eu gwaith i weddill y criw, a dyma sefydlu patrwm i weddill y gweithdai gyda Mari. Sgwrsio, ysgrifennu , paned, ambell deisen, sgwrsio mwy, ysgrifennu a darllen ein gwaith i’n gilydd. Buom yn Amgueddfa Hanes Natur Brambell Prifysgol Bangor, ac yno gwelsom sgerbydau o anifeiliaid ac oen dau ben; digon o sbardun i ysgrifennu darn o waith . O fanno aethom i Oriel Gelf ac Amgueddfa Storiel lle cawsom gwmni Megan Cochoran yn ein tywys i edrych ar y cadeiriau pren, y gist dderw a berthynai i’w hen nain, coron Brenin Enlli a’r ‘Welsh Not’ gwreiddiol. Danteithion i’r llygaid  a’r synhwyrau yn wir, a chlamp o deisen gyda phaned yng nghaffi’r Storiel i orffen ein sesiwn.

Ymlaen a ni wedyn am Lyfrgell y Brifysgol lle cawsom ddod i wybod ychydig o hanes yr adeilad a’r miloedd o lyfrau yno. Daeth diwedd y prosiect yn llawer rhy fuan pan cawsom ymweld a Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy am ginio a darllen ein gwaith i’n gilydd. Pan ddaeth hi’n amser ffarwelio, doedd hi ddim yn hawdd oherwydd y cyfeillgarwch a dyfodd rhyngom dros yr wythnosau. Ond wrth ffarwelio, roedden ni’n gwybod fod straeon wedi eu adrodd, atgofion wedi eu ail fyw a chyfrinachau wedi eu rhannu. Magwyd hyder a hunan barch, a thyfodd cariad at eiriau; yn ogystal a chryfhau’r teimladau o berthyn i’n gilydd fel grŵp.

 

Bydd llyfryn o waith Prosiect X yn cael ei gyhoeddi’n y flwyddyn newydd, ond dyma flas i aros pryd;

 

Astrophytum Myriostigma (Gerddi Botaneg Treborth 12.11.18)

 

It is rebutis senillis

Inside my Parodia Scopa.

It is cranial

It is caregia gigantean

Inside my Parodia Scopa.

 

This is the Astrophytum Myriostigma

And I don’t like it.

I don’t like it one bit

Not one jot

I want it out of my Parodia Scopa.

 

Keep off! Do not touch!

Canarina Canariensis.

Do not touch

My Mammillaria elongate!

Keep your Ferrocactus robustus

Off my Mammillaria

Or else!

 

Prosiect X