• Llun:  Cwrs Ysgrifennu a Darlunio i Blant, Chwefror 2019.
Awydd cwrs yn Nhŷ Newydd? Dyma gyngor euraidd!
Iau 18 Ebrill 2019 / , / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Fe ofynnon ni i’r rheiny ddaeth ar gwrs Tŷ Newydd yn ystod 2018 beth fydda’i cyngor nhw i unrhyw un sy’n ystyried cofrestru ar gwrs yma.

Dyma’r cyngor euraidd:

 

Ewch amdani. Hyd yn oed os ydych chi’n swil, mae’n bendant yn ffordd o fagu peth hyder.

 

Peidiwch ag oedi!

 

Cer – yn bendant cer!

Mae awyrgylch Tŷ Newydd cyn bwysiced â’r cwrs. Mwyhewch y llonyddwch, y bwyd a’r cwmni, a holwch eich tiwtoriaid yn ddi-baid. Oni bai y gwnewch chi hyn, fyddwch chi wedi gwastraffu cyfle.

 

Cerwch amdani! Mae’r arbenigedd a rennir gan diwtoriaid yn amhrisiadwy a’r gwmnïaeth a’r lluniaeth yn ychwanegu’r fawr at y profiad.

 

Ewch! Mae ymroddiad y tiwtoriaid a’r staff heb ei ail; mae’r profiad o fod gyda phobl eraill sy’n ymddiddori mewn gwaith creadigol – a’r profiad o Dŷ Newydd ei hun ( yr adeilad, yr ardd, y wlad o gwmpas) yn werthfawr iawn.

 

Ewch amdani. Lleoliad hardd. Tiwtoriaid da a chlên. Bwyd iachus cartref bendigedig. Ystafelloedd sengl cyfforddus. Awyr iach.

 

Mae’n brofiad gwych, ac yn rhoi cyfle am lonydd a seibiant i feddwl.

 

Os ydych yn dod am y tro cyntaf, dewch gyda meddwl agored a bod yn benderfynol o elwa, naill ai drwy ddarganfod eich dawn chi eich hun neu ddawn rhywun arall. Os yn dod ar encil, gofalwch eich bod chi’n cael popeth mewn trefn CYN dod ar yr encil er mwyn cael y budd mwyaf o lonydd i sgwennu.

 

Ewch, da chi! Fyddwch chi ddim isio gadael, a byddwch yn dod oddi yno’n llawn ysbryd creadigol!

 

Ewch! Mae ‘na awyrgylch arbennig yno.