Cyhoeddi Blodeugerdd gan Feirdd ein Dosbarth Meistr Digidol
Gwe 3 Gorffennaf 2020 / , / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn 30 oed, trefnodd Llenyddiaeth Cymru Ddosbarth Meistr Barddoniaeth Digidol dan arweiniad Gillian Clarke, cyn Fardd Cenedlaethol Cymru ac un o sefydlwyr y Ganolfan.

Llwyddodd 7 bardd i ennill lle ar y cwrs arbennig hwn, a gynhaliwyd rhwng 15 – 19 Mehefin 2020, gan roi cyfle i feirdd ymroddedig ddatblygu eu crefft. Dros gyfnod o bum diwrnod cafwyd cyfle i ysgrifennu; i gymryd rhan mewn trafodaethau grŵp; ac i dderbyn adborth beirniadol ar eu cerddi. Ymunodd y bardd Mona Arshi yn y rhith-lyfrgell yn ystod yr wythnos gyda darlleniad fyddai’n siŵr o roi rhagor o ysbrydoliaeth i waith y beirdd.

Penllanw’r cwrs oedd cyhoeddi blodeugerdd ddigidol o gerddi’r gweithdai. Darllenwch yr holl gerddi yma, neu drwy lawrlwytho’r ddogfen isod.

Bydd rhagor o gyrsiau digidol amrywiol yn cael eu cyhoeddi yn fuan, felly cadwch lygaid ar ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol.