logo-ty-newydd

Cofrestrwch ar gyfer ein Cylchlythyr

English
  • Ein Cyrsiau
    • Ein holl gyrsiau
    • Mathau o Gyrsiau
    • Beth i’w ddisgwyl
    • Cymorth Ariannol
    • Llety
  • Ein Bwthyn Encil
    • Cwestiynau Cyffredin
    • Encilion Gostyngedig ym Mwthyn Encil Awduron Nant
  • Tŷ Newydd
    • Hanes
    • Llanystumdwy a’r Ardal leol
    • Cwestiynau Cyffredin
    • Tîm Tŷ Newydd
    • Llogi Tŷ Newydd
  • Oriel
  • Gwneud Gwahaniaeth
    • Blog
    • Prosiectau
    • Tystlythyrau
    • Straeon Llwyddiant
  • Cysylltu
    • Dewch o hyd i ni
  • Ein Cyrsiau
    • Ein holl gyrsiau
    • Mathau o Gyrsiau
    • Beth i’w ddisgwyl
    • Cymorth Ariannol
      • Ysgoloriaeth Lenyddol Ruth Seavers
    • Llety
      • Hygyrchedd
  • Ein Bwthyn Encil
    • Cwestiynau Cyffredin
    • Encilion Gostyngedig ym Mwthyn Encil Awduron Nant
  • Tŷ Newydd
    • Hanes
    • Llanystumdwy a’r Ardal leol
      • David Lloyd George
    • Cwestiynau Cyffredin
    • Tîm Tŷ Newydd
    • Llogi Tŷ Newydd
  • Oriel
  • Gwneud Gwahaniaeth
    • Blog
    • Prosiectau
    • Tystlythyrau
    • Straeon Llwyddiant
  • Cysylltu
    • Dewch o hyd i ni
  • Llun:  Richard Outram

Tŷ Newydd

Tŷ Newydd yw Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru. Ers agor ein drysau yn 1990, mae miloedd o awduron wedi camu dros drothwy ein drws gwyrddlas eiconig.

Ein arbenigedd yw trefnu cyrsiau ysgrifennu creadigol preswyl o safon. Rydym yn croesawu grŵp newydd i’n cartref bob wythnos- yn gymysgedd unigryw o unigolion o Gymru, y Deyrnas Unedig, a phob cwr o’r byd. Yn ystod eu harhosiad, mae’n hawduron yn treulio amser gyda’i gilydd dan arweiniad awduron proffesiynol, yn cymryd rhan mewn gweithdai a thiwtorialau un-i-un, yn mwynhau darlleniadau, ac yn ymhyfrydu yn awyrgylch hyfryd ac ysbrydoledig gogledd orllewin Cymru.

Mae ein rhaglen yn cynnwys amrywiaeth eang o gyrsiau preswyl ac encilion – yn y Saesneg a’r Gymraeg – mewn amryw o genres, ffurfiau a themâu, yn cynnwys barddoniaeth, ffuglen, ffeithiol-greadigol, scriptio, ysgrifennu am fyd natur, adrodd straeon, ioga a mwy.

Rydym yn dewis ein tiwtoriaid a’n siaradwyr gwadd yn ofalus, gan groesawu rhai o ymarferwyr gorau eu meysydd i Dŷ Newydd pob blwyddyn. Mae rhai o’n cyn-diwtoraid yn cynnwys

Gillian Clarke, Carol Ann Duffy, Lemn Sissay, Pascale Petit, Andrew McMillan, Cynan Jones, Sophie Mackintosh, Amy Liptrot, Willy Russel, Manon Steffan Ros, Hollie McNish, Inua Ellams, Roger Robinson, Helen Mort, Ingrid Persaud, Fiona Benson, Owen Sheers, Okechukwu Nzelu, Menna Elfyn a llawer iawn mwy.

Ein tŷ hanesyddol oedd cartref olaf y cyn Brif Weinidog David Lloyd George ac mae cyffyrddiadau cyfarwydd pensaer Portmeirion, Clough Williams-Ellis yn parhau i fod yn amlwg drwy’r safle. Mewn lleoliad tawel rhwng y mynyddoedd a’r môr, dyma’r man perffaith i encilio iddo a bod yn greadigol.

Cynigiwn gyrsiau pwrpasol ac unigryw i grwpiau addysgiadol, gan weithio gyda thiwtoriaid ac athrawon i lunio’r cwrs perffaith ar gyfer eu grŵp. Mae hefyd yn bosib llogi Tŷ Newydd yn breifat ar gyfer cwrs corfforaethol, gwyliau, neu achlysur arbennig.

I bori trwy ein rhaglen gyrsiau cliciwch yma, neu cysylltwch am wybodaeth bellach.

 

Caiff Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd ei redeg gan Llenyddiaeth Cymru, y cwmni cenedlaethol ar gyfer datblygiad llenyddiaeth. Am fwy o wybodaeth am ein llywodraethiant, cliciwch yma i ymweld â’r dudalen berthnasol ar wefan Llenyddiaeth Cymru.

Dewislen

Tŷ Newydd
  • Hanes
  • Llanystumdwy a’r Ardal leol
    • David Lloyd George
  • Cwestiynau Cyffredin
  • Tîm Tŷ Newydd
  • Llogi Tŷ Newydd

Ein Cyrsiau

Encil Nofio Gwyllt mis Medi
Gwe 5 Medi 2025 - Sul 7 Medi 2025
Tiwtor / Emma Senior (Wild Wales)
Gweld Manylion
Ysgrifennu Dy Hun i Mewn: Yr ysgrif personol a chofiannau
Llu 15 Medi 2025 - Gwe 19 Medi 2025
Tiwtoriaid / Tiffany Murray, Gary Raymond
Darllenydd Gwadd / Kathryn Tann (Digidol)
Gweld Manylion
Cwrs Undydd: Ysgrifennu eich Nofel Gyntaf


Wedi gwerthu i gyd

Tiwtor / Ffion Dafis
Gweld Manylion

logo-literature-wales

logo-ty-newydd

icon-social-facebook  icon-social-twitter  icon-social-instagram  icon-social-flickr

icon-social-facebook  icon-social-twitter  icon-social-instagram  icon-social-flickr

© Llenyddiaeth Cymru
  • Fy Nghyfrif
  • Telerau ac Amodau Archebu
  • Telerau ac Amodau Llenyddiaeth Cymru
  • Hysbysiad Preifatrwydd GDPR
  • Polisi Cwcis
  • Sitemap
  • Cynaladwyedd
  • Llenyddiaeth Cymru
Tŷ Newydd, Llanystumdwy, Cricieth, Gwynedd, LL52 0LW. 01766 522 811 / tynewydd@llenyddiaethcymru.org

gov-logo

arts-logo