Ysgolion a Phrifysgolion

Mae Tŷ Newydd yn trefnu cyrsiau ysgrifennu creadigol preswyl ac undydd i ysgolion cynradd, uwchradd, prifysgolion a sefydliadau addysg uwch eraill. Mae pob cwrs yn unigryw.

Rydym yn gweithio gyda’r athrawon i drefnu cyrsiau wedi eu teilwra yn arbennig,  gan gynnig dewis o genre, cynnwys a thiwtoriaid addas ar gyfer y grŵp.

Mae Tŷ Newydd yn cynnig awyrgylch ysbrydoledig, yr amser, gofod a hunan-hyder i’r bobl ifainc archwilio eu potensial fel awduron. Byddant yn derbyn cyngor a mentora gan awduron proffesiynol ac yn mwynhau cyfleoedd i deimlo, ymateb a rhannu drwy ysgrifennu.

Bydd yna sesiynau grŵp, sesiynau un-i-un gyda’r tiwtoriaid, darlleniadau, a chyfle i’r disgyblion a’r myfywyr weithio’n unigol ar eu hysgrifennu.

Mae pawb yn byw gyda’i gilydd yn Nhŷ Newydd ar gyrsiau preswyl, ac mae’r awyrgylch yn hamddenol ac yn anffurfiol. Mae’r disgyblion a’r myfyrwyr yn helpu eu hunain i frecwast a chinio ac yn helpu, fel rhan o dîm, i baratoi un pryd fin nos i weddill y grŵp. Gallwn gysgu hyd at 20 o ddisgyblion neu fyfyrwyr.

Am fwy o wybodaeth, ac i drefnu cwrs i’ch ysgol neu’ch prifysgol chi, cysylltwch â ni: tynewydd@llenyddiaethcymru.org / 01766 522811.

Ein Cyrsiau

Encil Di-diwtor yr haf
Llu 24 Awst 2026 - Gwe 28 Awst 2026
Gweld Manylion
Encil Nofio Mynydd (Medi)
Gwe 4 Medi 2026 - Sul 6 Medi 2026
Tiwtor / Emma Senior (Wild Wales)
Gweld Manylion
Bod yn Ddewr yn eich Ysgrifennu
Llu 7 Medi 2026 - Gwe 11 Medi 2026
Tiwtoriaid / Cynan Jones, James Scudamore
Darllenydd Gwadd / Eimear McBride (Digidol)
Gweld Manylion