Cegin Tony: Bisgedi Anzac
Iau 12 Hydref 2017 / / Ysgrifennwyd gan Tony

Rhwng pobi bisgedi blasus a pharatoi llond gwlad o fara cartref mae gan Tony, cogydd Tŷ Newydd, storfa anferth o ryseitiau arbennig. Rydym wedi gofyn iddo rannu rhai o’i hoff ryseitiau gyda ni. Bydd rysáit y mis hwn, a holl ryseitiau’r dyfodol, ar gael ar ein blog. Bon appétit!

Bisgedi Anzac

Cynhwysion

5 owns o flawd plaen
4 owns a hanner o siwgr
4 owns o geirch
3 owns a hanner o gnau cocos wedi eu sychu
4 owns o fenyn
1 llond llwy fwrdd o driog aur
hanner llwy de o soda bicarbonad
1 llond llwy fwrdd o ddŵr poeth

Dull

Cynheswch y popty i 180C / Nwy 7. Cymysgwch yr holl gynhwysion sych gyda’i gilydd (blawd, siwgr, ceirch a chnau cocos). Toddwch y menyn mewn sosban ac ychwanegwch y triog cyn ei dynnu oddi ar y gwres. Cymysgwch y soda bicarbonad gyda’r dŵr poeth a’i ychwanegu at y gymysgedd. Ychwanegwch y ddau gymysgedd at ei gilydd (gwlyb a sych) a’i gymysgu’n dda.

Siapiwch gymysgedd maint pêl golff yn eich llaw a’i osod ar hambwrdd gyda phapur pobi brown. Defnyddiwch sbatwla neu waelod gwydr i wasgu’r belen. Gwnewch yn siŵr bod digon o ofod rhwng y bisgedi. Gosodwch yr hambwrdd ar y silff waelod yn y popty a’u pobi am 20 munud.

Mwynhewch!