Cegin Tony: Cacen Fanana Figan
Gwe 26 Ionawr 2018 / / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Rhwng pobi bisgedi blasus a pharatoi llond gwlad o fara cartref mae gan Tony, cogydd Tŷ Newydd, storfa anferth o ryseitiau arbennig. Rydym wedi gofyn iddo rannu rhai o’i hoff ryseitiau gyda ni. Bydd rysáit y mis hwn, a holl ryseitiau’r dyfodol, ar gael ar ein blog. Bon appétit!

Cacen Fanana Figan

Cynhwysion
3 llond llwy de o bowdr pobi
12 owns o flawd codi
12 owns o laeth soya (wedi ei bwyso nid ei fesur)
12 owns o siwgr
3¾ owns o olew blodyn yr haul
2 fanana aeddfed wedi eu torri
2 llond llwy de o sinamon

Dull

Mae’r rysáit yma yn hawdd iawn. Cymysgwch yr holl gynhwysion gyda’i gilydd yn dda. Pobwch mewn tun am 45 munud ar wres o 180 gradd. Gadewch i’r gacen oeri yn y tun. Mwynhewch!