• Llun:  Hawlfraint - Yr Urdd
Cwrs Olwen 2019: Datblygu sgiliau enillwyr prif wobrau llên Eisteddfod yr Urdd
Mer 5 Mehefin 2019 / , , / Ysgrifennwyd gan Llenyddiaeth Cymru

Bydd yr awduron a ddaeth i’r brig ym mhrif gystadlaethau llenyddiaeth Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2019 yn cael datblygu eu sgiliau ysgrifennu creadigol ymhellach mewn cwrs arbennig yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd ym mis Tachwedd yn rhad ac am ddim. Fe drefnir y cwrs ar y cyd rhwng Llenyddiaeth Cymru ac Urdd Gobaith Cymru.

Bydd y tri uchaf yng nghystadleuaeth Y Gadair, Y Goron, a’r Fedal Ddrama yn cymryd y cam nesaf yn eu gyrfaoedd ysgrifennu, gan ddod ynghyd yn y ganolfan genedlaethol i dderbyn gweithdai ysgrifennu ac i ddod i adnabod eu cyfoedion yn y gymuned ddiweddaraf o awduron ifanc.

Y naw buddugol a fydd yn mynychu’r cwrs yw Mared Roberts, Llio Alun, Iestyn Jones, Iestyn Tyne, Carwyn Eckley, Osian Owen, Brennig Davies, Megan Hunter, a Caryl Bryn. Tiwtoriaid Cwrs Olwen eleni fydd Gwennan Evans a Gruffudd Owen, dau fu ar y cwrs eu hunain yn y gorffennol yn dilyn llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd.

Meddai’r ddau: “Fe gawsom ni’r fraint o fynd ar rai o’r cyrsiau hyn pan oeddem ni’n cystadlu yn yr Urdd, a chael amser bythgofiadwy. Bu’n hwb i’n hyder ac yn ysgogiad pendant i barhau i ysgrifennu a cheisio gwneud hynny o ddifri. Roedd cael sylw a chanmoliaeth gan diwtoriaid profiadol yn amhrisiadwy…Cawsom ein hannog i arbrofi gyda gwahanol arddulliau a ffurfiau ac roedd pawb yn gadael Tŷ Newydd gyda darnau o waith y gallent fod yn falch ohonynt.”

Mae’r Cwrs, a drefnir ar y cyd rhwng Llenyddiaeth Cymru ac Urdd Gobaith Cymru, yn cael ei gynnal ers pymtheg mlynedd, ac wedi chwarae rhan blaenllaw yn dod a chenedlaethau o awduron ifanc at ei gilydd. Ail lansiwyd y cwrs yn 2016 er cof am Olwen Dafydd, fu’n gweithio yn Nhŷ Newydd am 11 o flynyddoedd yn trefnu cyrsiau a digwyddiadau, gan gynnwys cyrsiau’r Urdd.

Yn ogystal â Gwennan Evans a Gruffudd Owen eu hunain, mae cyn fynychwyr y cwrs hwn yn cynnwys: Eurig Salisbury, Anni Llŷn, Casia William, Gruffudd Antur, Guto Dafydd, Iestyn Tyne, Grug Muse, Morgan Owen, Hywel Griffiths, ac Osian Rhys Jones.

Dywedodd Leusa Llewelyn, Pennaeth Tŷ Newydd, “Mae Cwrs Olwen wedi hawlio ei le fel uchafbwynt blwyddyn sawl awdur a bardd ifanc dros y blynyddoedd. Caiff Tŷ Newydd ei ystyried fel ail gartref i lenorion yng Nghymru, a braf yw cael agor y drws i griw’r Urdd ar gychwyn eu gyrfa. Mae sawl cerdd, cyfeillgarwch ag ambell gylchgrawn wedi cael eu cychwyn yn y Llyfrgell, ac edrychwn ymlaen i weld be ddaw o gwrs 2019.”

Am ragor o wybodaeth am Gwrs Olwen neu am Dŷ Newydd, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru: tynewydd@llenyddiaethcymru.org / 01766 522 811