Cyhoeddi Rhaglen Gyrsiau Undydd yr Hydref
Iau 2 Mai 2019 / , / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Mae’n bleser gan Llenyddiaeth Cymru gyhoeddi rhaglen o gyrsiau undydd yr hydref yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Gyda diwedd yr haf a dyfodiad mis Medi, daw’r awydd yn aml i gychwyn rhywbeth o’r newydd – felly beth am roi cynnig ar gwrs ysgrifennu creadigol byr? Mae’n cyrsiau undydd poblogaidd yn eu hôl, gydag opsiwn o aros dros nos er mwyn rhoi blas ar brofiad preswyl Tŷ Newydd.

Bydd rhaglen yr hydref eleni yn croesawu rhai o brif lenorion Cymru i’r ganolfan i roi arweiniad ym meysydd ffuglen, cyfansoddi caneuon a byd y ddrama. Byddwn hefyd yn agor drysau Tŷ Newydd led y pen i Gymru gyfan yn ystod ein diwrnod agored– lle bydd cyfle i fusnesu o amgylch yr adeilad hanesyddol a dysgu mwy am ein gwaith. Bydd paneidiau, melysion a lobsgóws enwog Tŷ Newydd yn eich disgwyl ar ddydd Sul 22 Medi, a bydd croeso yn eich disgwyl gan ein cyfeillion yn Amgueddfa Lloyd George hefyd.

Dyma restr o’r cyrsiau sydd i ddod. Cofrestrwch yn fuan, gan fod ein cyrsiau undydd yn dueddol o werthu yn gyflym. Mae rhagor o wybodaeth am bob cwrs a botwm i gofrestru eich lle ar gael drwy glicio ar y teitlau.

 

Dydd Sadwrn 14 Medi: Cyfansoddi Geiriau Caneuon gyda Lleuwen Steffan

P’un ai eich bod yn awyddus i gyfansoddi geiriau caneuon ar gyfer y siartiau, i’w canu mewn noson meic agored neu yn syml ar gyfer eich llygaid a’ch clustiau chi eich hun a neb arall, bydd y cwrs undydd hwn yn cynnig arweiniad heb ei ail gan un o artistiaid mwyaf blaenllaw Cymru. Dyma gwrs addas ar gyfer crefftwyr geiriau a cherddorion newydd a phrofiadol. Er yn gwrs cyfansoddi caneuon, y geiriau fydd yn cael eu trin a’u trafod y tro hwn yn hytrach na’u halawon. Byddwch yn siŵr o adael gydag egin cân, i weithio arni ar ôl y cwrs. A chofiwch fod dyddiad cau Cân i Gymru ddim tan ddiwedd Ionawr…!

 

Dydd Sul 22 Medi: Diwrnod Agored

Rhwng 11.00 am – 4.00 pm bydd Tŷ Newydd yn cynnal Diwrnod Agored fel rhan o dymor Drysau Agored Cadw, ac yn gwahodd y cyhoedd i ddod draw i gerdded o amgylch y tŷ hanesyddol. Bydd lluniaeth ysgafn ar gael, a theithiau gwybodaeth anffurfiol drwy’r dydd. Galwch heibio, bydd croeso cynnes yn eich aros.

 

 

Dydd Sadwrn 12 Hydref: Dechrau o’r Dechrau: Y Nofel gyda Llwyd Owen

Ar y cwrs undydd hwn, bydd yr awdur Llwyd Owen yn rhannu ei brofiad o ddatblygu egin syniad yn nofel orffenedig, yn ogystal â rhannu ambell gyfrinach fydd o gymorth ar hyd y ffordd. Gan ddefnyddio’i nofelau ei hun fel man cychwyn, bydd yr awdur o Gaerdydd yn eich rhoi ar ben y ffordd ac yn esbonio sut y gall un olygfa neu gymeriad dyfu i fod yn stori gynhwysfawr. Felly, os oes gennych chi lyfr yn llawn nodiadau yn llechu mewn hen ddrôr, neu hyd yn oed breuddwyd o droi cymeriad neu olygfa gofiadwy yn rhywbeth mwy sylweddol, ymunwch â ni ar y cwrs undydd hwn i gychwyn ar eich taith i greu nofel.

 

Dydd Sadwrn 26 Hydref: Ysgrifennu Monolog gydag Aled Jones Williams

Ymunwch ag Aled Jones Williams ar gyfer cwrs undydd fydd yn trin a thrafod y fonolog. Beth sy’n gwneud monolog dda? Beth sydd ei angen er mwyn mynd ati i lunio a chreu delwedd sy’n gafael? Boed chi ond yn cychwyn chwarae â geiriau neu eisoes yn seiri crefftus, cewch arweiniad a chyngor ar y cwrs hwn gan un o ddramodwyr mwyaf cynhyrchiol Cymru. Byddwch yn gadael gyda syniadau newydd a’r technegau sydd eu hangen er mwyn meistroli’ch crefft.

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru: tynewydd@llenyddiaethcymru.org / 01766 522 811