Cyhoeddi Rhaglen o Gyrsiau Digidol ar gyfer y Gaeaf
Llu 22 Tachwedd 2021 / , / Ysgrifennwyd gan Llenyddiaeth Cymru

Mae’n bleser gan Llenyddiaeth Cymru gyhoeddi rhaglen newydd sbon o gyrsiau blasu Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd i’ch ysbrydoli dros fisoedd y gaeaf.

Bydd ein drysau’n agor i ymwelwyr unwaith eto yn y gwanwyn, ond yn y cyfamser, cewch flas o’r math o gyrsiau ysgrifennu creadigol a gynigir gyda’n rhaglen rithiol newydd. Nod Llenyddiaeth Cymru yw grymuso, gwella a chyfoethogi bywydau trwy ein gweithgareddau, a bydd y rhaglen amrywiol hon yn ysbrydoli awduron o bob cefndir a phrofiad i brofi grym ysgrifennu creadigol a llenyddiaeth.

Bydd yr wyth cwrs rhithiol byr yn digwydd dros ginio ar brynhawniau Gwener yn y flwyddyn newydd, ac yn mynd ar wibdaith o amgylch sawl pwnc a genre gwahanol yn y Gymraeg a’r Saesneg, er mwyn eich annog i gychwyn, neu i barhau, gyda’ch ysgrifennu creadigol. Rydym yn croesawu dechreuwyr llwyr sydd yn chwilfrydig am y grefft o ysgrifennu i archebu lle ac i gael blas ar yr hyn sydd yn bosib, ac mae’r cyrsiau hefyd yn addas i awduron sydd â peth profiad yn barod.


Y Rhaglen

Yn y Gymraeg, bydd cyfle i feirdd fentro i fyd y gynghanedd yng nghwmni Prifardd yr Urdd, Osian Owen, fydd yn rhoi blas o’r bedair brif gynghanedd mewn cwrs perffaith i ddechreuwyr ac i’r rheiny sydd angen eu hatgoffa o hanfodion y gerdd dafod. I’r egin nofelwyr yn eich plith, bydd dau gwrs go wahanol yn eich disgwyl: gyda Dyfed Edwards yn eich tywys drwy isfyd tywyll y nofel drosedd, a Marlyn Samuel yn arwain cwrs ar y nofel boblogaidd, i’ch annog i greu llyfrau llawn hiwmor i’w darllen yn yr haul. Yna i orffen y pedwarawd, bydd Grug Muse yn edrych ar yr ysgrif fel ffurf lenyddol, ac yn dangos sut i’w defnyddio yn greadigol i sôn am natur, yr amgylchedd ac yr argyfwng hinsawdd.

Yn y Saesneg, bydd rhagor o farddoniaeth yn eich aros, gyda Matthew Haigh yn rhoi cyfle i ddechreuwyr chwarae â ffurf cerdd drwy ddulliau arbrofol. Bydd mwy o arbrofi a phrofion i’w canfod yng nghwrs Rosalind Hudis fydd yn archwilio’r berthynas rhwng barddoniaeth a gwyddoniaeth. I awduron rhyddiaith sydd yn edrych am ysbrydoliaeth, bydd y nofelydd Hammad Rind yn rhannu ei gyfrinachau o sut yr aeth ati i daclo ei nofel gyntaf a gyhoeddwyd yn gynharach eleni; a bydd yr awdur poblogaidd Horatio Clare yn edrych ar sut i ysgrifennu am fywyd, am le ac am bobl, a sut y mae gwneud hynny mewn modd fydd yn apelio at y darllenydd.

I ddarllen rhagor am gynnwys y cyrsiau ac i ddysgu mwy am diwtoriaid talentog y cyrsiau blasu,  ewch draw i’n gwefan: www.tynewydd.cymru lle bydd hefyd modd archebu eich lle. Mae llefydd yn gyfyngedig, felly archebwch yn fuan i osgoi siom.

Rydym yn edrych ymlaen at wanwyn 2022 lle byddwn yn ail agor drysau Tŷ Newydd, ac yn croesawu awduron i’r tŷ i fwynhau rhaglen llawn o gyrsiau undydd a chyrsiau preswyl, wyneb-i-wyneb â thiwtoriaid gwybodus ac ysbrydoledig. Byddwn yn cyhoeddi rhaglen lawn o gyrsiau newydd y ganolfan yn gynnar ym mis Ionawr 2022, ond yn y cyfamser, bydd y cyrsiau digidol hyn yn ysgogi eich dychymyg, ac yn rhoi blas ar yr hyn sydd gennym i’w gynnig yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.