Y Tŷ Hanesyddol
Gall y tŷ hanesyddol gysgu hyd at 18 mewn chwe llofft (dwy loft gyda 4 gwely; dwy loft gyda naill ai 3 gwely sengl, un sengl ac un dwbl, neu dim ond un gwely dwbl; un ystafell ddwbl; ac un ystafell sengl). Mae ystafell fwyta fawr (gall eistedd 20+) gyda nodweddion gwreiddiol; dwy lyfrgell; cegin fawr gyda phopty nwy a microdon; a thŷ haul mawr gyda thri llawr ac ardal eistedd ar y llawr gwaelod. Mae lifft a mynediad anabl i holl brif ardaloedd y tŷ.
Ystafell wely wedi ei haddasu
Mae’r llofft yma wedi ei lleoli ym mlaen Hafoty – ein hadeilad allanol dros yr iard gyferbyn â’r prif dŷ hanesyddol. Mae’n addas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn ac unigolion gyda chyfyngiadau ar eu symudedd, gydag ystafell ymolchi wedi ei haddasu’r drws nesaf, gyda chawod, sinc a thoiled. Mae llwybr gwastad yn arwain yr holl ffordd o’r ystafell hon at y lifft ym mlaen y prif dŷ. Am fanylion pellach ynglŷn â mynediad anabl, cliciwch yma.
Ystafelloedd ychwanegol
Os ydych chi angen unrhyw lety ychwanegol, mae saith ystafell wely arall ar gael yn ein hadeilad allanol, Hafoty. Bydd y rheiny sydd yn aros yma yn gallu defnyddio’r gegin ac ardaloedd cymunedol y prif dŷ. Nodwch nad oes modd archebu’r llety yma ar ei ben ei hun; dim ond fel llety ychwanegol.