logo-ty-newydd

Cofrestrwch ar gyfer ein Cylchlythyr

English
  • Amdanom ni
    • Tŷ Newydd
    • Y Tŷ
    • Llanystumdwy a’r Ardal leol
  • Ein Cyrsiau
    • Cyrsiau ac Encilion
    • Mathau o Gyrsiau
    • Beth i’w ddisgwyl
    • Cymorth Ariannol
    • Ysgolion
  • Encil Awduron Nant
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Gwneud Gwahaniaeth
    • Prosiectau
    • Tystlythyrau
    • Straeon Llwyddiant
  • Blog
  • Cysylltu
  • Llenyddiaeth Cymru
  • Amdanom ni
    • Tŷ Newydd
      • Tîm Tŷ Newydd
      • Oriel
      • Cwestiynau Cyffredin
      • Dewch o hyd i ni
    • Y Tŷ
      • Hanes
      • Llety
        • Opsiynau Llety
      • Hygyrchedd
      • Llogi Tŷ Newydd
    • Llanystumdwy a’r Ardal leol
      • David Lloyd George
  • Ein Cyrsiau
    • Cyrsiau ac Encilion
    • Mathau o Gyrsiau
    • Beth i’w ddisgwyl
    • Cymorth Ariannol
    • Ysgolion
  • Encil Awduron Nant
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Gwneud Gwahaniaeth
    • Prosiectau
    • Tystlythyrau
    • Straeon Llwyddiant
  • Blog
  • Cysylltu
  • Llenyddiaeth Cymru
  • Llun:  Sarah Edmonds

Llanystumdwy a’r Ardal leol

Mae pentref bach Llanystumdwy yn gyfarwydd fel llecyn diwylliannol sydd wedi bod yn gartref i lu o enwogion creadigol dros y blynyddoedd megis yr artist Elis Gwyn Jones a Jonah Jones y cerflunydd, y dramodydd Wil Sam, y cyn Archdderwydd, WRP George a’r diweddar awdur Jan Morris.

Mae’n ardal fywiog yn ddiwylliannol, gyda digwyddiadau yn y Neuadd Bentref, neu Amgueddfa Lloyd George bob wythnos. Tafarn y Plu, ein tafarn gymunedol, yw calon y pentref ac mae croeso cynnes i’w gael yno bob amser.

O fewn tafliad carreg o Dŷ Newydd mae tref Cricieth, tref glan y môr brydferth â golygfeydd anhygoel o Fae Ceredigion ac Ardudwy. Mae cymaint ar gael i’w archwilio yn ystod eich arhosiad, o lecynau hanesyddol diddorol i’r Lôn Goed chwedlonol a ysbrydolodd rhan o gerdd enwog R Williams Parry, ‘Eifionydd’:

Eifionydd

O olwg hagrwch cynnydd
Ar wyneb trist y gwaith
Mae bro rhwng môr a mynydd
Heb arni straen na chraith,
Ond lle bu’r arad ar y ffridd
Yn rhwygo’r gwanwyn pêr o’r pridd.

Draw o ymryson ynfyd
Chwerw’r newyddfyd blin,
Mae yno flas y cynfyd
Yn aros fel hen win.
Hen, hen yw murmur llawer man
Sydd rhwng dwy afon yn Rhos Lan.

A llonydd gorffenedig
Yw llonydd y Lôn Goed,
O fwa’i tho plethedig
I’w glaslawr dan fy nhroed.
I lan na thref nid arwain ddim,
Ond hynny nid yw ofid im.

O! mwyn yw cyrraedd canol
Y tawel gwmwd hwn,
O’m dyffryn diwydiannol
Y dull y byd a wn;
A rhodio’i heddwch wrthyf f’hun,
Neu gydag enaid hoff, cytun.

R. Williams Parry

 

Dewislen

  • Tŷ Newydd
    • Tîm Tŷ Newydd
    • Oriel
    • Cwestiynau Cyffredin
    • Dewch o hyd i ni
  • Y Tŷ
    • Hanes
    • Llety
      • Opsiynau Llety
    • Hygyrchedd
    • Llogi Tŷ Newydd
  • Llanystumdwy a'r Ardal leol
    • David Lloyd George

Ein Cyrsiau

Defnyddio Lle fel Ysbrydoliaeth
Sul 19 Chwefror 2023
Tiwtoriaid / Siôn Aled, Sian Northey
Gweld Manylion
Ysgrifennu ar gyfer Plant a Phobl Ifanc
Sad 4 Mawrth 2023
Tiwtor / Bethan Gwanas
Gweld Manylion
Encil Yoga y Gwanwyn


Wedi gwerthu i gyd

Tiwtor / Richard Fowler
Gweld Manylion

logo-literature-wales

logo-ty-newydd

icon-social-facebook  icon-social-twitter  icon-social-instagram  icon-social-flickr

icon-social-facebook  icon-social-twitter  icon-social-instagram  icon-social-flickr

© Llenyddiaeth Cymru
  • Fy Nghyfrif
  • Telerau ac Amodau Archebu
  • Telerau ac Amodau Llenyddiaeth Cymru
  • Hysbysiad Preifatrwydd GDPR
  • Polisi Cwcis
  • Crëwyd gan Creo
  • Llenyddiaeth Cymru
Tŷ Newydd, Llanystumdwy, Cricieth, Gwynedd, LL52 0LW. 01766 522 811 / tynewydd@llenyddiaethcymru.org

gov-logo

arts-logo