Fel rhan o gynllun Llenyddiaeth er Iechyd a Lles a ariennir gan Gyngor Gwynedd, trefnodd Llenyddiaeth Cymru fod y bardd, awdur a’r cyflwynydd Gwion Hallam yn ymweld â chartref gofal Seiont Newydd yng Nghaernarfon. Bu Gwion yn treulio amser gyda’r preswylwyr, sydd â dementia, dros gyfnod o chwe wythnos. Crëwyd sawl cerdd o eiriau ac atgofion y preswylwyr. Braf oedd gweld Gwion yn ennill Coron Eisteddfod Genedlaethol Môn eleni gyda cherdd wedi ei ysbrydoli gan y gweithdai hyn.
Am ragor o wybodaeth am y prosiect hwn, cliciwch yma.
Fel rhan o gynllun Llenyddiaeth er Iechyd a Lles a ariennir gan Gyngor Gwynedd, trefnodd Llenyddiaeth Cymru fod Bardd Plant Cymru, Anni Llŷn, yn mynd draw i gynnal gweithdai yn Ysgol Hafod Lon, Penrhyndeudraeth dros gyfnod o chwe wythnos. Bu naw person ifanc a thri aelod o staff yn cymryd rhan yn y prosiect cyffrous hwn yn ystod Tachwedd a Rhagfyr 2016. Bu’r disgyblion yn ysgrifennu barddoniaeth ar y thema ‘Fi fy hun’ gan archwilio eu teimladau ac emosiynau gydag Anni a chael hwyl dda iawn ar greu llu o gerddi gwahanol. Bu Morfudd Hughes, sy’n ymarferydd symud a llais yn cydweithio gydag Anni ar y prosiect a bu’r ddwy yn gweithio ar ddatblygu sgiliau’r bobl ifanc drwy gyfrwng gemau syml a gwisgo wigiau a dillad gwahanol er mwyn chwarae rôl. Daeth criw o’r bobl ifainc draw i Dŷ Newydd ar ddiwedd y cwrs i gael te parti yng nghwmni neb llai na Dewi Pws fu’n eu diddanu gyda caneuon, cerddi a jôcs.
Am ragor o wybodaeth am y prosiect hwn, cliciwch yma.
Fel rhan o gynllun Llenyddiaeth er Iechyd a Lles a ariennir gan Gyngor Gwynedd, trefnodd Llenyddiaeth Cymru fod y bardd ifanc Siôn Pennar yn cynnal gweithdai barddoniaeth gyda thrigolion Cartref Pwyliaid Penrhos ger Pwllheli. Cynhaliwyd cyfres o chwe gweithdy dros gyfnod o dri mis yn gynnar yn 2017. Criw bychan a dedwydd ddaeth ynghyd, gyda’r mwyafrif ohonynt wedi symud o Wlad Pwyl i fyw i Benrhos. Gan fod Siôn Pennar yn medru’r Bwyleg roedd y tair iaith; Saesneg, Cymraeg a Phwyleg yn cael eu defnyddio fel rhan o’r gwaith.
Am ragor o wybodaeth am y prosiect hwn, cliciwch yma.
Yn ystod blwyddyn academaidd 2016-17 bu Llenyddiaeth Cymru yn cynnal prosiect Cadwyn Heddwch gyda 21 o ysgolion cynradd yng Ngwynedd. I gynal y prosiect hwn, derbyniwyd grant hael gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri fel rhan o gynllun cofio’r Rhyfel Byd Cyntaf. Yng nghwmni’r awduron nodedig Gwion Hallam, Sian Northey a Manon Steffan Ros, bu’r disgyblion yn ymchwilio’n fanwl i hanes unigolion lleol a chwaraeodd ran yn nhreftadaeth y Rhyfel Byd Cyntaf. Bu gwaith y disgyblion i’w weld mewn arddangosfa yn Eisteddfod Genedlaethol Môn.
Am ragor o wybodaeth am y prosiect, cliciwch yma.
Mae Sgwadiau Sgwennu Gwynedd a Môn yn cynnig cyfleoedd amhrisiadwy i ddisgyblion ysgol gynradd ac ysgol uwchradd gael gweithdai a chymorth gan awduron profiadol. Mae rhai o aelodau’r gorffennol wedi mynd ymlaen i ennill cadeiriau, coronau a gwobrau llenyddol di-ri. Cynhelir tair Sgwad ‘Sgwennu yn y naill sir yn ystod blwyddyn academaidd. Mae awdur profiadol yn ymweld â’r criw er mwyn cynnal ymarferion a gweithgareddau a gosod tasgau creadigol. Dros y ddegawd ddiwethaf mae dros 63 o awduron wedi arwain Sgwad Sgwennu yng Ngwynedd a Môn.
Am ragor o wybodaeth am Sgwad Sgwennu Gwynedd a Môn, cliciwch yma.
Derbyniodd Llenyddiaeth Cymru grant gan gynllun Grow Wild/Tyfu’n Wyllt i drawsnewid rhan o ardd Tŷ Newydd. Rhaglen pedair blynedd ydi Tyfu’n Wyllt er mwyn annog pobl i hau blodau gwyllt brodorol yn eu gerddi. Mae’r prosiect ariannu yn cael ei arwain gan Erddi Botaneg Brenhinol Kew a’i gefnogi gan y Gronfa Loteri Fawr. Un bore Llun ym mis Mai, daeth criw brwdfrydig o bobl ifanc GISDA draw i dorchi llewys yn yr ardd er mwyn creu llecyn tawel i fyfyrio, ysgrifennu neu ymlacio, wedi ei hysbrydoli gan gysyniad ‘gardd zen.’ Er mwyn i bawb gael eistedd i lawr a chymryd hoe o’r gwaith corfforol, cafwyd gweithdy ysgrifennu geiriau caneuon yng nghwmni’r cerddor Iwan Huws o’r band Cowbois Rhos Botwnnog.
Am ragor o wybodaeth am brosiect Grow Wild, cliciwch yma.
Dros fisoedd yr Hydref a Thachwedd pob blwyddyn, daw grŵp o ddarllenwyr at ei gilydd yn Nhŷ Newydd ar gyfer cyfres o chwech o glybiau darllen yn y Lolfa Lên. Mae bod yn aelod o glwb darllen yn cynnig pethau gwahanol i’r darllenydd, yn gyfle i holi cwestiynau, dod o hyd i atebion, dadlau, cytuno, archwilio a chael paned. Ond mae bod yn aelod o glwb darllen Aled Jones Williams yn brofiad unigryw yn ei hun. Nod y clwb arbennig hwn yw creu cymuned o ddarllenwyr, pobl sy’n fodlon rhannu profiadau eu bywydau, boed felys neu chwerw, wrth ddarllen y testun.
Am ragor o wybodaeth am y grŵp darllen, cliciwch yma.
Derbyniodd Llenyddiaeth Cymru arian grant gan Ŵyl Gwanwyn ym mis Mai 2017 er mwyn trefnu digwyddiadau penodol i ddathlu creadigrwydd ymysg pobl hŷn. Gyda’r arian grant, trefnwyd taith arbennig ar y trên bach o amgylch Llyn Padarn gyda’r bardd a’r newyddiadurwr Karen Owen. Yn ystod y daith roedd Karen yn adrodd straeon am rai o gewri llenyddol Eryri. Yn dilyn y daith, trefnwyd gweithdy ysgrifennu chwedlau gyda’r awdur Meinir Pierce-Jones ym Mhorthmadog.
Am ragor o wybodaeth am Ŵyl Gwanwyn, cliciwch yma.
Derbyniodd Llenyddiaeth Cymru arian gan Gronfa AHNE Llŷn i gynnal gweithdai a digwyddiadau o fewn ardal y warchodfa. Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yw AHNE ac mae’r uned yn Llŷn wedi bod yn gweithio ar brosiectau er mwyn helpu i gynnal hunaniaeth unigryw yr ardal, o adfywio cerrig milltir ac arwyddion yr ardal i gynnal gwaith cynnal a chadw ar ffynhonnau’r ardal, ers blynyddoedd. Trefnodd Llenyddiaeth Cymru bum digwyddiad: gweithdai mewn dwy ysgol leol gyda’r cyfarwydd Mair Tomos Ifans a’r artist Luned Rhys Parri, dwy daith Bardd Mewn Bws ar hyd yr arfordir a Phybcrôl Llenyddol o amgylch tref Pwllheli gyda Twm Morys a Gwyneth Glyn.
Am ragor o wybodaeth am brosiect AHNE, cliciwch yma.
Ym mis Mai 2016 daeth criw o wyth o breswylwyr Cartref Pwyliaid Penrhos ger Pwllheli am dro i Ganolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy. Roeddent rhwng 70 ac 80 mlwydd oed a’r rhan fwyaf ohonynt wedi dod o Wlad Pwyl i fyw ym Mhenrhos. Hyfryd oedd clywed y tair iaith; Saesneg, Cymraeg a Phwyleg, yn cael ei siarad yn ystod y dydd. Cafwyd cyfle i fynd am dro gyda Bethan Wyn Jones o gwmpas yr ardal a chyfle i ysgrifennu gyda’r bardd Fiona Owen.
Am ragor o wybodaeth am yr ymweliad, cliciwch yma.