Cyhoeddi Rhaglen o Gyrsiau Digidol ar gyfer yr Hydref
Mer 5 Hydref 2022 / / Ysgrifennwyd gan Llenyddiaeth Cymru

Mae’n bleser gan Llenyddiaeth Cymru gyhoeddi rhaglen newydd sbon o gyrsiau blasu Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd i’ch ysbrydoli dros fisoedd yr hydref.

Wrth i’n rhaglen o gyrsiau blynyddol nesáu at ei diwedd, bydd ein drysau rhithiol yn parhau ar agor dros yr hydref er mwyn cynnig blas o’r math o gyrsiau ysgrifennu creadigol a gynigir yma yn y Ganolfan yn 2023. Bydd y rhaglen amrywiol hon yn cynnig cyfle i awduron brofi grym ysgrifennu creadigol a llenyddiaeth.

Bydd y chwe cwrs rhithiol byr yn digwydd dros ginio ar brynhawniau Gwener, gan gynnig gwibdaith o amgylch sawl pwnc a ffurf gwahanol. Mae rhaglen unigryw yn y Gymraeg ac yn y Saesneg. Rydym yn croesawu dechreuwyr llwyr sydd yn chwilfrydig am y grefft o ysgrifennu i archebu lle ac i gael blas ar yr hyn sydd yn bosib, ac mae’r cyrsiau hefyd yn addas i awduron sydd â pheth profiad yn barod.

Ymunwch â ni i gychwyn, neu i barhau, gyda’ch ysgrifennu creadigol, ac i gael eich hysbrydoli gan diwtoriaid talentog Cymru.

Y Rhaglen o Gyrsiau Digidol

Yn y Gymraeg, mae gennym amrywiaeth o gyrsiau yn eich disgwyl sydd yn canolbwyntio ar sut i ddechrau arni, i oroesi colli’r awen, ac i hogi eich syniadau unigryw. Yng nghwmni Erin Hughes, enillydd y Fedal Rhyddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022, byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio eich profiadau personol yn eich gwaith, ysgrifennu o’r galon a bod yn driw i’ch profiadau. I’r egin nofelwyr yn eich plith, bydd dau gwrs i annog eich creadigrwydd: un gyda Llŷr Titus, fydd yn eich tywys drwy’r broses o ddechrau ysgrifennu nofel, ar ôl taclo ei nofel gyntaf a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, a’r llall yng nghwmni Casia Wiliam, gan edrych ar y grefft o ysgrifennu i blant, gyda chyfle i drafod sut i fynd â’ch stori at y wasg gyhoeddi.

Yn y Saesneg, bydd rhagor o ryddiaith yn eich aros, gyda Lesley Parr yn cynnig cip ar sut i greu cymeriadau bythgofiadwy i blant, a Sian Hughes yn ysgogi eich creadigrwydd wrth fynd ati i roi syniadau ar sut i ddechrau ysgrifennu. I orffen ein casgliad o gyrsiau blasu, bydd Abeer Ameer yn arwain cwrs fydd yn archwilio’r cysylltiadau rhwng barddoniaeth a meddylgarwch, gyda phwyslais ar y rhinweddau myfyrdodol sydd yn ganolbwynt i’r ddau ymarfer.

I ddarllen rhagor am gynnwys y cyrsiau, i ddysgu mwy am y tiwtoriaid ac i archebu eich lle, ewch draw i’n gwefan: www.tynewydd.cymru. Er mwyn sicrhau profiad gwerth chweil i fynychwyr, nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael. Archebwch yn fuan i osgoi siom.

 

Rhaglen Gyrsiau 2023

Rydym yn edrych ymlaen at wanwyn 2023 lle byddwn yn ail agor drysau Tŷ Newydd unwaith yn rhagor, ac yn croesawu awduron i’r tŷ i fwynhau rhaglen lawn o gyrsiau undydd a chyrsiau preswyl, wyneb-yn-wyneb â thiwtoriaid gwybodus ac ysbrydoledig. Byddwn yn cyhoeddi rhaglen lawn o gyrsiau newydd y ganolfan yn gynnar ym mis Ionawr 2023, ond yn y cyfamser, bydd y cyrsiau digidol hyn yn ysgogi eich dychymyg, ac yn rhoi blas ar yr hyn sydd gennym i’w gynnig yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.