“Cyrraedd y Canol Tawel”….
Daeth Ken Griffith draw i Dŷ Newydd ar gwrs penwythnos Cychwyn eich Nofel gyda Bethan Gwanas a Manon Steffan Ros ym mis Mai 2017. Dyma gofnod o’i brofiadau.
Fy hoff dymor yw’r Gwanwyn. Mae llawer i fardd wedi canu am y deffroad, yr addewid o’r haf i ddod ar gobaith am ddadeni. Ond wrth ddianc o olwg hagrwch y cynnydd (wel, cael sbario torri gwair yr ardd ffrynt a cefn beth bynnag) dyma fi, yn dreifio trwy Eifionydd ar bnawn Gwener braf a chynnes ddechrau Mai, yn llawn o’r gobaith am y busnes sgwennu ‘ma. Wrth anelu trwy Rhoslan am Lanystumdwy a Thŷ Newydd ei hun gwyddwn fy mod yn chwilio am y dadeni hwnnw yn fy nyheadau i rhoi geiriau at ei gilydd oedd yn ddarllenadwy i bobl heblaw fi fy hun.
Roedd sawl stori neu sawl hanner stori mewn ffeil o’r enw “Hanesu” ar fy ngliniadur a rhai yno ers sawl blwyddyn a fel hen stiwdant da roeddwn wedi ail afael mewn dwy stori i fynd gyda mi ond yn petruso a ddylwn ei dangos i Bethan a Manon neu beidio.
Roedd dreifio ar hyd llonyddwch y lôn gul at yr hen dŷ yn wefr o ddisgwyliadau, yn rhyddhad o gael penwythnos braf gyfan o ‘mlaen a chyffro am ddod i adnabod cyd-sgwennwrs a’r awduron eu hunain. Ac yna yn Nhŷ Newydd dyma wyth ohonom ni i gyd erbyn chwech o’r gloch yn eistedd gyda Bethan a Manon ar ben y bwrdd mawr yn ciniawa ar fwyd hyfryd Tony a’r sgwrs a’r cwmni yn hyfryd hefyd. Dechreuodd y gwaith a’r tasgau ar ôl swper ac fe wnaethom weithio. O do! – roedd digon o waith. Doedd hwn ddim yn benwythnos i droedio dŵr ar yr ymylon. Doedd dim dewis ond nofio yn gryf gyda môr o syniadau a chrefftio geiriau a llwyth o chwerthin braf i’n dal ar wyneb y dŵr.
Crefftus iawn oedd y tasgau oedd Bethan a Manon wedi eu paratoi ar ein cyfer. Erbyn amser cinio dydd Sadwrn roedd hyder pawb wedi dod i’r wyneb a’r ddwy awdures yn ein tywys trwy deimladau, synau ac atgofion plentyndod a ninnau yn bownsio’r storïau yn ôl a blaen i’n gilydd.
Roedd y dasg fwyaf, sef sgriptio, cynhyrchu ac actio drama radio fer mewn tîm o bedwar i weld yn fynydd o waith ond roedd yr adrenalin yn pwmpio erbyn hyn a cafwyd llwyddiant ysgubol nes fod dagrau yn llygaid pawb o’r holl chwerthin.
Ond i fod yn ddifrifol, roedd y creu a’r adborth yn llifo dan fugeiliaeth hynod Bethan a Manon. Cafwyd sialens ganddynt i fwrw ati i ysgrifennu gyda’r gobaith o weld pob un ohonom wedi cyhoeddi rhywbeth yn fuan ac roeddent am ein atgoffa bob tro y down i ar ei traws yn y dyfodol.
Daeth y profiad anhygoel i ben ar bnawn Sul ar ôl cinio bendigedig arall. Y penwythnos wedi hedfan er i ni gyflawni cyn cymaint. Wrth gwrs fe oedd hynny yn cynnwys cerdded drwy’r coed ar lannau Dwyfor a’r peint anorfod yn nhafarn y Plu yn hwyr nos Sadwrn.
Roedd y gobaith felly wedi ei wireddu. Ar ôl y cymorth a’r arweiniad yn Nhŷ Newydd mae ysgrifennu yn ran annatod o bob dydd bron ac os nad oes rhywbeth wedi ei ychwanegu i’r ffeil Hanesu neu ei gynllunio mewn nodiadau rwy’n teimlo rhyw fath o euogrwydd braf a disgwyl rhyw drydar gan Bethan neu Manon yn gofyn pam!
Trysor yw Tŷ Newydd a mae’r fwydlen lenyddol sydd ar gael yno yn cynnig i ni oll sydd a rhyw awydd i chwarae gyda geiriau ffordd werthfawr i gynnal ein hiaith. Iaith sydd dan fygythiad ers sawl blwyddyn fel y gwn ni oll. Ond os oes yna obaith o gyrraedd y Miliwn ‘ma bydd angen sgiliau creu a ysgrifennu arnom er mwyn hybu eraill i’w darllen.
Ac i mi mae’r hyder a’r cyffro sydd wedi dod o’r cwrs wedi troi yn deimlad o gyrraedd. Mae’r awen yn eistedd yng nghanol tawel y meddwl yn barod pan mae’r gliniadur yn deffro. A mae’r eneidiau hoff, gytûn yna i ni rannu gyda hwy oll.
– Ken Griffith